Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-05-23

Diwrnod diwylliant

Barddas Rhifyn 287 Ebrill/Mai 2006Mae'r diwrnod wedi dod unwaith eto pan dwi'n dod adref o'r gwaith a chael fod diwylliant wedi'i ddosbarthu gan y Post Brenhinol ar lun y rhifyn diweddaraf o Barddas, cylchgrawn y Gymdeithas Gerdd Dafod. Rydw i'n byw ar aelwyd sy'n medru dweud yn falch ei bod hi'n aelwyd dau Farddas - tybed sawl aelwyd arall yng Nghymru a thu hwnt sy'n medru brolio hynny? Da o beth hynny oherwydd pe na buasai felly mae'n debyg y gallai DML a minnau ymladd fel y gwnaeth Irfon a Pete ar ddiwedd Con Passionate nos Sul am yr hawl i ddarllen y rhifyn gyntaf! Ond yn lle trais a gwaed yr wyf fi'n medru ymgolli mewn prydferthwch a goleuni. Nid wyf wedi darllen llawer arno eto, dim ond taflu golwg dros ei gynnwys i weld pa ddanteithion sy'n fy nisgwyl. Mae'r rhifyn hwn wedi'i fedyddio'n 'Rhifyn y Tlysau' gan fod cyfle i aelodau bleidleisio i ddewis ennillwyr tri o dlysau:
  • Tlws Coffa W D Williams i awdur yr englyn gorau i ymddangos yn Barddas;

  • Tlws Coffa Roy Stephens i awdur y gerdd ar un o'r mesurau caeth traddodiadol; a

  • Thlws y Gerdd Rydd i awdur y gerdd o rau ar unrhyw fesur y tu allan i'r mesurau caeth traddodiadol.
Mae 'na reolau pleidleisio diddorol, gan gynnwys 'Ni all yr un aelod bleidleisio i berthynas agos' a hefyd 'Ni chaiff yr un bardd bleidleisio iddo'i hun'. Ni fydd yr un fenyw yn ennill eleni gan nad oes cerddi gan fenywod yn y detholiad. Ar ôl bwrw golwg yn frysiog dros y cynnyrch dwi'n tueddi i feddwl y bydda' i'n pleidleisio fel a ganlyn. Dwi heb benderfynu ar yr union drefn o fewn i'r categorïau eto.

Tlws y Gerdd Rydd
Cerdd 4: Gweddi gan Dafydd Pritchard; Cerdd 7, Parc Glas gan T. James Jones; Cerdd 6, Ann Griffiths gan Gwyn Thomas.

Tlws Coffa W. D. Williams
Englyn 3: Clirio'r Tŷ (sef cartref fy rhieni-yng-nghyfraith) gan Alan Llwyd; Englyn 6: Symud Tŷ gan Idris Reynolds; Englyn 2: Llwy garu gan Idris Reynolds.

Tlws Coffa Roy Stephens
Cerdd 1: Traeth Cwmtydu gan T. Llew Jones; Cerdd 3: Ar daith gyda Dylan gan Ceri Wyn Jones; Cerdd 5: Yr anrheg a roddais gan Dafydd M. Job.

Dwi ddim wedi darllen y cyfan o bell ffordd, ond fe gefais flas arbennig ar erthygl Idris Reynolds. Ef yw'r colofnydd gwadd y tro hwn ac mae'n trafod 'Beth ydi barddoni?' Mae ei golofn yn llawn straeon difyr ac yn annogaeth i'r rhai ohonom sydd am fod yn feirdd yn y traddodiad Cymraeg ond sy'n methu'n deg â meistroli'r gynghanedd. Mae'n sôn am fewnfudwraig sy'n dysgu cynganeddu:
Eto un o'r mewnfudwyr hynny bymtheng mlynedd yn ôl oedd Philippa Gibson. Er mwyn ymdoddi i mewn i'r gymdeithas frodorol aeth ati i ddysgu'r iaith gan lwyddo mewn byr amser, ac ers blynyddoedd bellach mae hi yn un o diwtoriaid Cymraeg y Brifysgol yn y bröydd hyn. Yn ddiweddar cymerodd at y gynghanedd ac ar ôl cwta ddwy wers gallai weithio englynion cywir! [fy ebychnod i.]
Dwi wedi cael cymaint o fwynhad yn barod a dwi heb ddarllen ei hanner eto.

Tagiau Technorati: | .