Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-05-22

Calan Mai 2006 (4)

Harmoni, Pen-caer, ger AbergwaunDwi am orffen dweud hanes y daith i Sir Benfro hefyd er bod pethau eraill wedi taro ar fy nhraws. Felly wedi bod yn Llanwnda ni ddaeth ein taith ym Mhen-caer i ben. Roeddwn i am fynd â DJP i un o'r llefydd eraill hynny sy'n fy hudo - Garn Fawr a chapel bach Harmoni, capel y Bedyddwyr, oddi tani. Dyma lle mae millenia yn dod i gysylltiad â'i gilydd. Codwyd capel presennol Harmoni yn 1913 tra bo pobol wedi bod yn byw (ac yn addoli, mae'n rhaid) ar Garn Fawr a'r cyffiniau ers Oes yr Haearn os nad cynt. Roedd y tywydd yn wych ac roedd mur gwyn capel Harmoni yn disgleirio yn yr haul. Dwi wastad yn teimlo fy mod mewn cysylltiad â'r cynfyd yma ger Garn Fawr, mae'n debyg iawn i'r teimlad dwi'n ei gael wrth ymweld â chylch cerrig y Gors Fawr ym Mynachlog-ddi, neu Gerrig Meibion Arthur wrth droed Foel Cwm Cerwyn. Dyma'r hud sydd i'w brofi ar bob llaw yn Nyfed.

Nid dim ond fi sy'n teimlo rhyw bresenoldeb yma. Wrth chwilio drwy gatalog Tate fe ddois ar draws y llun hwn gan John Piper o Garn Fawr (1968).

Rhagor o luniau o Harmoni, Pen-caer a Garn Fawr.

Tagiau Technorati: | .