Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-05-12

Calan Mai 2006 (3)

Croes, Eglwys S. Gwyndaf, LlanwndaO ddod i Wdig doeddwn i ddim yn mynd i adael DJP i fynd heb alw heibio i Eglwys S. Gwyndaf, Llanwnda. Mae 'na ddau Lanwnda yng Nghymru - un ger Caernarfon a'r llall ar Ben-caer. Mae'r un ar Ben-caer ond un cam i ffwrdd o'r nefoedd, yn arbennig felly ar ddiwrnod clir braf fel yr oedd hi. O Lanwnda gellir gweld yr arfodir yn glir a'r môr glas a'r fferi i Iwerddon yn hwylio heibio. Dwi'n cofio dod i Lanwnda am y tro cyntaf pan roeddwn i'n blentyn ysgol yn Ysgol Preseli. Roeddwn i yn y dosbarth cyntaf i ddysgu Daearyddiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn yr ysgol ac fe aeth y dosbarth - rhyw 8 ohonon ni, y cyfan yn fechgyn - ar drip i weld nodweddion daearyddol a daearegol Pen-caer. Roedd 'na athrawon a phlant o Ysgol Abergwaun yno hefyd ac fe ddysgais i fwy am hanes a thraddodiadau lleol yr ardal nag am ddaeareg. Mae'r diwrnod yn dal i fod yn y cof hyd heddiw, ac roedd yn ddiwrnod yn pwysig oherwydd dyna wnaeth danio ynof fi gariad at Sir Benfro, ac at fy ngwlad go iawn.

Eglwys S. Gwyndaf, Llanwnda, Pen-caerUn o'r profiadau mwyaf y diwrnod oedd ymweld ag eglwys S. Gwyndaf. Eglwys fechan Geltaidd yn sefyll yng nghanol y gwynt a'r glaw yw hi. Roedd hi ar lwybr y pererinion i Dyddewi (fel DJP a finnnau heddiw!) ac felly mae olion y pererinion ar lun croesau wedi'u torri i'r creigiau o gwmpas y lle ym mhob man. Mae olion sy'n hŷn byth o gwmpas y lle hefyd oherwydd roedd 'na bobol yn byw yma cyn i Gristnogaeth ddod. Nid nepell i ffwrdd mae Garn Fawr gyda'i chaer gynnar. Mae'r teimlad cyn-hanesyddol yma i'w deimlo wrth edrych ar y garreg ryfedd sydd wedi'i gosod yn un o waliau'r eglwys. Carreg yw hon â wyneb arni. Nid yw'n hawdd i'w weld bob amser - mae'n dibynnu ar y golau a'r cen. Ond o syllu ar y wyneb hwnnw mae'n amhosib ei anghofio. Wrth edrych arno dwi'n teimlo fy mod yn edrych i wyneb fy nghyn-dadau a'm cyn-famau yn Sir Benfro. (Wrth gwrs, gan nad oes unrhyw awydd ynof o gwbl i olrhain hanes fy nheulu nid oes unrhyw syniad gyda fi pa mor hir oedd cysylltiad fy nheulu â'r ardal.) Mae'r cromlechi a'r meini hirion a'r olion eraill yn tystio i'w presenoldeb, ond dyma'r unig wyneb dynol y gallaf edrych arno.

Wyneb, Eglwys S. Gwyndaf, Llanwnda

Rhagor o luniau o Abergwaun, Wdig a Llanwnda.

Tagiau Technorati: | | .