Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-05-29

the guardian HAY FESTIVAL 2006

Gelli GandryllMae DML wedi mynd i'r Hay Festival yn y Gelli Gandryll heddiw. Mae bron â bod pawb dwi'n eu hadnabod wedi mynd i'r Hay Festival yn y Gelli Gandryll heddiw. Maen nhw'n dweud eu bod nhw'n mynd i Ŵyl y Gelli, ond os edrychwch chi ar wefan yr ŵyl welwch chi yr un gair o Gymraeg yno, ac yn bendant nid oes unrhyw awgrym fod yr ŵyl yn cael ei galw yn ddim ond Hay Festival. Mae'r ŵyl yn beth rhyfedd iawn - mae'n cael ei chynnal mewn gwlad gyda'r un o traddodiadau llenyddol hynaf ac eto anwybyddir y traddodiad hwnnw bron yn gyfangwbl - mae'r hyn sy'n cael ei gynnwys yn gwynto o docenyddiaeth drwsgwl. Caiff y cyfan ei fewnforio o'r tu fas; mae'r dref yn lle gwych ar gyfer gŵyl lenyddol ond mae fel petai mynychwyr yr ŵyl am ailgreu yr hyn y maen nhw'n gyfarwydd ag ef yn hytrach na mentro i brofi byd newydd. I mi mae'n debyg iawn i Margot Leadbetter ar y rhaglen gomedi The good life pan na chafodd y Nadolig ei ddelifro a doedd ganddi'r syniad lleia beth i'w wneud nesaf. Petai Llundain ddim yn symud i'r Gelli dros gyfnod yr ŵyl yna fuasai llawer iawn o'r mynychwyr yn ei chael hi'n anodd iawn credu bod 'diwylliant' yma! Mae'n briodol iawn taw papur newydd the guardian sy'n noddi'r ŵyl.

DiskobolosI mi mae'r digwyddiad yn rhy debyg i faes yr eisteddfod i fod yn wirioneddol ddeniadol. Gyda'r glaw trwm sydd wedi bod dros y penwythnos efallai y bydd yn fwy tebyg i'r eisteddfod na fuasai neb yn ei ddymuno. Wrth gwrs mae'n ŵyl y banc hefyd ac mae'r ffaith fod y lle yn denu DML am y dydd yn fy ngalluogi i wneud yr hyn dwi'n ei fwynhau orau, sef cerdded rownd y fflat yn borcyn yn gwneud y gwaith tŷ drwy'r dydd. Er dwi'n siŵr y bydd digon yn meddwl y buasai'n lot gwell syniad mynd i'r Gelli Gandryll na hyd yn oed dychmygu fi yn gwneud hynny!

Tagiau Technorati: | | .