Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-05-09

Calan Mai 2006 (1)

DJP a CGw yn yr ardd, CilgerranOs nad oedd Morfa Bychan a Chwm Einion yn ddigon, fe gefais gyfle drannoeth i fynd 'yn ôl' i Sir Benfro. DJP roes y cyfle imi. Y bwriad oedd mynd i Dyddewi ond gwneud ein ffordd trwy Gilgerran. Dwi'n gwybod fod hynny'n swnio'n ffordd ychydig yn droellog (dylanwad Cwm Einion efallai!) i Dyddewi, ac fe fyddai unrhyw bererin wedi tagu ar ei fedd o feddwl am deithio fel 'na. Ond y bwriad oedd galw yng Nghilgerran i weld CGw cyn bod yr ysgol yn ailddechrau wedi'r gwyliau. Ond cyn galw heibio i Gilgerran roedd yn rhaid imi ddangos man geni John Hughes (1872-1914) ym mhentref bach Pen-y-bryn i DJP. Hughes oedd cyfansoddwr y dôn Calon Lân.

Man geni John Hughes, Penybryn, Sir Benfro

Ar yr olwg gyntaf mae Cilgerran yn bentref cwbl nodweddiadol o gefn gwlad Cymru - hen bentref bach digon dymunol sydd wedi tyfu yn rhy fawr dros y deng mlynedd ar hugain diwethaf wrth i fyngalo hyll ar ôl byngalo hyll gael eu hadeiladu ar y cyrion gan droi'r lle yn gopi diflas o bob pentref arall. Wrth gwrs mae gan Gilgerran dau beth penodol sy'n ei osod ar wahân, y castell ac afon Teifi. O waelod gardd CGw roedd hi'n bosib gweld un (jyst) a chlywed y llall. Oherwydd y castell mae byw yn rhywle fe Cilgerran yn siwr o fod yn rhyw ymdebygu i fyw mewn parc thema, ond bod Castell Cilgerran yn gastell go iawn yn hytrach na ffug fel Castell Disneyland!

Rhagor o luniau o Gilgerran a Phenybryn.

Tagiau Technorati: | | .