Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-05-10

Calan Mai 2006 (2)

AbergwaunCawsom groeso mawr gan CGw yng Nghilgerran a buodd y ddau ohonom ni gyda hi am oriau. Ond yn y diwedd yr oedd yn rhaid inni fynd. Roedd DJP am gyrraedd Tyddewi cyn diwedd y dydd, ond ar ôl gadael Cilgerran ein nod oedd chwilio am rywle i gael cinio. Fe wnaethon ni ryw hanner meddwl mynd i'r Tafarn Sinc yn Rosbwsh, ond fe rybuddiodd CGw ei bod hi'n bwysig cadw lle yno ymlaen llaw. Felly dyma fentro tuag at Abergwaun a gobeithio dod o hyd i rywle yno i gael cinio.

Cwm Abergwaun o BenslâdFe adawon ni Gilgerran heibio i gapel Ty'n-rhos a thrwy Rhoshil am Eglwyswrw. Wrth fynd fan'na roedden ni'n mynd heibio i Ffynnon Feigan, canolfan bwysig i bererinion yn yr oesoedd canol ac wedyn, wrth iddyn nhw ddod yn ceisio iachâd. Ond doedd dim amser gyda DJP i geisio hynny heddiw, roedden ni'n chwilio am ginio bellach a'r lle i gael hwnnw oedd Abergwaun. Roedd y daith yn odidog ar hyd y glannau hyd at Drefdraeth, trwy'r Dinas ac i Gwm Abergwaun. Fe benderfynais y buaswn yn dangos un o fy hoff lefydd yn y dre i DJP, sef cerrig yr orsedd a godwyd ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol 1936. Mae'r rheiny ar Benslâd yn edyrch lawr dros Gwm Abergwaun - llecyn tawel heb ryw lawer o fynd a dod. Ond rhaid cyfaddef bod Abergwaun i gyd yn weddol dawel ar ŵyl y banc fel 'roedd hi, mae'n rhaid fod pawb wedi bod yma dros y Pasg a heb ddod 'nôl ond rhyw bythefnos yn ddiweddarach. Rhyw bum munud ar y mwyaf roeddwn i wedi meddwl y buasai'r ddau ohonom wrth y meini, ond roedd yr olygfa mor wych nes i'r ychydig funudau droi'n hanner awr bron.

Tafarn Hope & Anchor, WdigErbyn hynny roedden ni'n llwgu. Roeddwn i'n cofio bod 'na dafarn oedd yn gwneud bwyd yn Wdig a bant â ni i chwilio amdano. Erbyn dod o hyd i'r Hope & Anchor roedd hi'n amlwg fod y lle wedi newid. Yn lle'r tafarn bach cartrefol a Chymreig yr oeddwn i'n ei gofio, roedd y lle yn gastropub go iawn ac yn amlwg wedi'i gynllunio i apelio at glientele penodol - pobl ifanc, trendi, gyda digon o arian i'w hala. Mae'n siŵr iddyn nhw gael siom fawr o'm gweld i yn cerdded mewn drwy'r drws. Steil oedd yn frenin o ran decor ac ymarferoldeb. Doedd y bwyd ddim yn rhad, ond roedd angen bwyd arnon ni. Pan ddaeth ein pryd roedd yn flasus dros ben, ac mae'n amlwg eu bod nhw yn mynd i drafferth gyda'r coginio. Fe ges i gregyn glas gyda saws ratatouille. Roedd yn bryd da ac yn sylfaen ar gyfer ymweliadau'r prynhawn.



Tagiau Technorati: | | | | .