Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-04-17

Yr wythnos fawr

Ers dod yn Gristion rhaid imi gyfaddef fy mod wedi delfrydu y syniad o fyw mewn cymuned, neu gomiwn Cristnogol. Rhywbeth fel mynachlog ond yn agor i bawb - dynion, menywod, plant, pobl sengl a'r rhai wedi pridodi - lle buasai'n bosib byw y ddelfryd Gristnogol a gofnodir fel realiti yn yr eglwys fore. Mae'n rhaid ei fod e rhywbeth i'w wneud gyda'r ffaith fy mod i'n un o blant y 1960au. Cafodd Cristnogion ar hyd yr oesoedd eu hysbrydoli yn hyn o beth gan rai o adnodau o lyfr yr Actau yn disgrifio'r eglwys gyntaf (Actau 2.42-47). Dyma sut maen nhw'n ddarllen yng nghyfieithiad ardderchog beibl.net:
Roedden nhw wir o ddifri. Roedden nhw’n dilyn beth oedd yr apostolion yn ei ddysgu, yn rhannu popeth gyda'i gilydd, yn cydfwyta a dathlu Swper yr Arglwydd gyda'i gilydd ac yn gweddïo’n ddyfal. Roedd rhyw ymdeimlad o ryfeddod dwfn yn eu plith nhw. Roedd yr apostolion yn gwneud gwyrthiau rhyfeddol oedd yn dangos fod Duw gyda nhw. Roedd pawb oedd yn credu yn teimlo eu bod nhw’n un teulu, ac yn rhannu popeth gyda'i gilydd. Roedden nhw’n gwerthu eu heiddo er mwyn gallu helpu pwy bynnag oedd mewn angen. Roedden nhw’n cyfarfod i addoli bob dydd yng nghwrt y deml, ac yn cydfwyta a dathlu Swper yr Arglwydd yng nghartrefi ei gilydd. Roedden nhw’n moli Duw, ac roedd agwedd pobl tuag atyn nhw yn bositif. Roedd mwy a mwy o bobl yn ymuno â nhw, ac yn cael eu hachub gan Dduw, bob dydd.
Ysbrydolwyd pobol ar hyd yr oesoedd gan y darlun hyn i greu eu cymunedau - y mwyaf amlwg yw'r lleianod a'r mynachod a wnaeth hynny ar hyd yr oesoedd. Ond nid rhywbeth wedi'i gyfyngu i'r byd hwnnw yw hyn o gwbwl. Ceir enghraifft drawiadol iawn yng Nghymru, sef Teulu Trefeca a sefydlwyd gan Howell Harris. Cafodd yntau ei ysbrydoli yn ei dro gan arferion Cristnogion o ganolbarth Ewrop, sef y Morafiaid. O'r un ardal yng nghanol Ewrop y tarddodd grwpiau eraill o Gristnogon oedd yn dewis byw mewn cymuned, plant y Diwygiad Radical - y mwyaf amlwg hyd heddiw yw'r Hwteriaid a'r Mennoniaid. Mae'r darlun yn un sy'n apelio y tu hwnt i ffiniau Cristnogaeth yn aml iawn - anghofiwch y crefydd os ych chi moyn, mae'r syniad o bobl yn byw mewn perthynas agos ac yn gofalu ar ôl anghenion ei gilydd yn ddelfryd sy'n apelio yn arbennig yn ei byd ni o bawb yn edrych ar ei ôl ei hunain yn unig.

Dwi'n sôn am hyn yng nghyd-destun yr Wythnos Fawr, yr wythnos sy'n ymestyn o Sul y Blodau hyd at Ddydd y Pasg, oherwydd dwi'n teimlo fod awyrgylch yr wythnos honno fel yr ydyn ni'n ei dathlu ym mhlwyf Aberystwyth yn dangos beth fuasai'r pethau da a'r pethau anodd am fyw mewn cymuned o'r fath.

Ym mhlwyf Aberystwyth yr ydym yn dathlu'r wythnos fawr drwy gadw gwasanaeth bob nos yn un o eglwysi'r plwyf. Golyga hyn ein bod yn gweld cyd-Gristnogion eglwysi Anglicanaidd y plwyf bob nos am wythnos gyfan. Rydych chi'n dod i 'nabod pobol am y tro cyntaf neu'n dyfnhau adnabyddiaeth mewn sgwrs ar ôl y gwasanaeth dros ddisgled o de neu goffi. Mae'r teimlad cymuedol yn un braf iawn.

Eleni roedden ni'n dilyn y drefn ganlynol:
- Nos Lun - Eglwys Llanychaearn;
- Nos Fawrth - Eglwys y Drindod;
- Nos Fercher - Eglwys S. Mair;
- Nos Iau Cablyd - Capel Seion;
- Dydd Gwener y Groglith - 10am Eglwys S. Mair, 11.15am Gorymdaith trwy'r dref, 12-3pm Eglwys y Drindod;
- Dydd y Pasg - 8am, 10am, 6pm, Eglwys S. Mair.

Ond wrth fyw mewn cymuned agos mae'n golygu eich bod yn colli eich preifatrwydd yn raddol. Y mwyaf clos yw cymuned yna lleia i gyd o breifatrwydd sydd gan ddyn. A dwi'n teimlo hynny hefyd adeg yr Wythnos fawr. Mae 'na deimlad o bwysedd, o orfodaeth i fynd i bob gwasanaeth sy'n cael ei drefnu, er bod hynny'n amhosib weithiau oherwydd amgylchiadau neu oherwydd teimlo nad ydych chi am wneud. Dyna'r pris mae'n rhaid ei dalu siŵr o fod, a rhaid imi gyfaddef ei bod yn well gen i bod pobol yn gofyn amdanaf yn hytrach nag yn gwbl ddi-hid.

Tagiau Technorati: | | |