Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-04-13

H5N1

Mae'r holl ffws 'ma am yr alarch marw yn Fife yn yr Alban wedi dangos imi pa mor hawdd yw hi i hala ofn ar bobol. Un alarch marw ac mae pawb mewn panig ac mae diwedd gwareiddiad ar y gorwel. Wrth gwrs mae hynny'n bell o'r gwirionedd, ond mae'n rhaid i mi gyfaddef fy mod yn codi fy llygaid (yn llythrennol) tua'r nefoedd yn fwy aml nag yr oeddwn i ei wneud ers imi glywed taw trwy ddom adar y mae ffliw'r ednod yn cael ei drosglwyddo. Dwi'n siŵ y bydd pawb sy'ngyfarwydd gydag Aberystwyth a'i gwylanod yn sylweddoli pam bod hynny'n cymaint o ofid. Wrth gwrs mae'n anodd iawn osgoi'r cynnwrf - mae dyn yn cael ei dynnu i mewn ar ei waethaf er dwi ddim wedi mynd cyn belled â phrynu un o'r penwisgoedd sy'n cael eu cynhyrchu gan gwmni DIY Safety. Ond mae'r demtasiwn yn fawr i ildio i bwysedd cyffredinol o'r fath ac mae'n anodd sefyll o'r neilltu pan fo husteria o'r fath yn taro.

Y tro diwethaf imi geisio gwrthsefyll husteria cyffredinol oedd pan wnes i benderfynu i beidio â galaru adeg angladd Diana. Roedd y byd wedi colli ei ben yn lân y diwrnod hwnnw, ac roedd Aberystwyth yn dioddef o husteria cynddrwg ag unrhyw le arall yn ôl y dystiolaeth a welais i gyda fy llygaid fy hun ac ar y teledu. Nid fy mod yn dymuno drwg iddi o gwbl, ond doeddwn i ddim yn perthyn nac yn adnabod Diana yn bersonol. Nid oeddwn yn ffrindiau neu'n gyfarwydd gyda neb oedd yn perthyn iddi chwaith, felly roeddwn i'n teimlo taw rhagrith fuasai aros yn tŷ ddiwrnod yr angladd ac esgus 'mod i'n mwrno, achos doeddwn i ddim! Ond roedd cerdded strydoedd Aberystwyth y diwrnod hwnnw yn fy llenwi â gofid - a fuasai pobol yn dial arna i am fod yn fastard calon-galed ansensitif. Cefais fy ngorfodi i deimlo fy mod yn gweithredu yn gwbl groes i'r ffordd y dylwn i wneud (heb unrhyw sail dros hynny o gwbl) gan fy nghanfyddiad i o bwysedd o'r tu fas i wneud rhywbeth nad oedd gen i unrhyw fwriad i'w wneud. A yw hyn yn dechrau eto?

Hwyaid, Craig-y-penrhyn, ger Tre'r-ddôlMae'r ffaith fy mod wedi fy nhynnu i sylwi ar yr hwyaid yng Nghraig-y-penrhyn ger Tre'r-dôl yn brawf i mi fy mod yn yr isymwybod wedi dioddef rhyw dwts o husteria. Ddim yn rhyw drwm iawn - ond mae yno yn y cefndir. Dwi ddim yn credu imi fod yng Nghraig-y-penrhyn erioed o'r blaen, ac mae hynny'n syndod gan imi grwydro llawer o'r heolydd bach o gwmpas Aberystwyth a gogledd Ceredigion yn ystod fy amser fel myfyriwr flynyddoedd maith yn ôl. Nid yw'n bentref o gwbl mewn gwirionedd on llinell o dai ar ochr heol gul yn arwain at ryd ar afon Cletwr. Heb gerbyd 4X4 mae'n anodd gen i gredu ei bod hi'n bosib defnyddio'r rhyd o gwbl. Ond yno fe arhoson ni i weld degau o hwyaid gwyllt yn nofio ar yr afon ac yn cerdded ar y lan. Dwi ddim yn ysmotiwr adar, ond roeddwn i'n cael fy nhynnu y diwrnod hwnnw. Roedd holl feddwl am H5N1 wedi mynd o'r meddwl yn llwyr ac roeddwn wedi ymgolli yn llwyr wrth wylio'r adar prydferth hyn. Dyna ddôs o realiti hanfodol i gadw dyn rhag derbyn agenda husteria y papurau newydd bron i gyd!


Lawrlwytho'r ffeil

Yr holl luniau a dynnais o'r daith yng ngogledd Ceredigion gan gynnwys rhai o Graig-y-penrhyn.

YDY DARLLEN Y BLOG HWN WEDI ACHOSI GOFID ICHI? GALLWCH GAEL MWY O WYBODAETH AM FFLIW'R ADAR A CHYMORTH PELLACH O DDILYN RHAI O'R DOLENNI ISOD
Os ydych chi'n poeni am H5N1 yna mae Cyngor Sir Ddinbych wedi rhoi gwybodaeth ddefnyddiol ar ei wefan ynglŷn â ffliw'r adar, ffliw'r ednod, neu'r Anwydwst Adarol fel maen nhw yn ei alw. Mae gwybodaeth heyfd, ond yn Saesneg yn unig yn anffodus, ar wefan Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru. Un peth arall y sylwais arno ar y wefan yw bod Twrci - sy'n ceisio dod yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd, yn cystadlu yn yr Eurovision Song Contest, UEFA, &c. - yn gyfleus iawn yn rhan o Asia yn ôl y siart sy'n dangos lle mae 'na achosion dynol o'r ffliw wedi bod! Felly does dim angen mynd i banig. Ceir gwybodaeth ddefnyddiol hefyd ar wefan Llywodraeth y Cynulliad Cenedlaethol mewn cymysgedd o Gymraeg a Saesneg. Dylai hynny dawelu unrhyw ofnau!

Tagiau Technorati: | | | | .