Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-04-18

Yr wythnos fawr (2)

Oherwydd gwaith fe'i cefais yn anodd i fynd nos Lun i Lanychaearn ac i Eglwys y Drindod nos Fawrth. Ond nos Fercher doedd gen i ddim rhyw lawer o ddewis - roedd pawb yn dod i Eglwys S. Mair, ac fel warden yr oedd yn rhaid imi fod yno yn gwmni i Dr WD fy nghyd-warden i sicrhau fod popeth yn mynd yn iawn. Doedd dim rhyw lawer iawn i'w wneud gan fod popeth wedi'i drefnu'n barod. Daeth nifer go dda ynghyd i glywed y Parchg. Ian Averson yn pregethu - ei bwnc oedd yr hyn a wnaeth wneud i Jwdas Iscariot fradychu Iesu. Bu'n drafod syniadau yn ymwneud â sut gall Duw ddefnyddio digwyddiadau drwg er lles yn y pendraw, holl thema'r Groglith a'r Pasg mewn gwirionedd. Wedyn cafwyd cyfle i gymdeithasu a sgwrsio dros ddishgled o goffi neu de. Treuliais i'r rhan fwyaf o'r amser yn y gegin yn golchi llestri, tipyn o gamp o ystyried fod rhyw 100 o bobol yno yn cymryd paned.

Y pulpud, Seion, Stryd y Popty, AberystwythNos Iau Cablyd roeddem ni'n cyfarfod yng nghyd yng Nghapel Seion, Stryd y Popty, Aberystwyth. Eglwys gynulleidfaol yw Seion ac felly roedd y traddodiad o wneud pethau, yn arbennig y cymun bendigaid, yn wahanol iawn i'r hyn yr wyf fi wedi dod i arfer ag ef dros y pymtheg i ungain mlynedd diwethaf ers imi ddechrau addoli mewn eglwysi Anglicanaidd. Wrth gwrs cyn hynny roeddwn i wedi treulio pum mlynedd ar hugain fel Bedyddiwr ac yn gyfarwydd iawn â'r dull diwydiedig o weinydd sacrament Swper yr Arglwydd. Eto i gyd mae'n rhaid imi gyfaddef nad oeddwn i'n cofio'n iawn bob manylyn o'r hyn oedd yn digwydd. Y pregethwr oedd y Parchg Howard Porter, ficer Penparcau a Llanychaearn, a'i thema yntau oedd yr angen i'n geiriau o gariad tuag at ein gilydd ac eraill gael eu troi hefyd yn weithredoedd o gariad. Roedd e'n cyfeirio at eiriau Iesu yn y Swper Olaf: "Dw i’n rhoi gorchymyn newydd i chi: Carwch eich gilydd. Rhaid i chi garu'ch gilydd yn union fel dw i wedi'ch caru chi. Dyma sut bydd pawb yn gwybod eich bod chi’n ddilynwyr i mi, am eich bod chi’n caru'ch gilydd."


Lawrlwytho'r ffeil

Dydd Gwener y Groglith roedd holl eglwysi a chapeli Cymraeg y dref yn cyfarfod yn Eglwys S. Mair am 10.00am cyn mynd ymlaen i orymdeithio trwy'r dref yn dilyn y groes am 11.15am. Fel mae'n digwydd roeddwn i'n siarad neu'n pregethu yn y gwasanaeth hwn - gwasanaeth i rai o bob oed (neu wasanaeth plant fel yr oedd hi'n arferol dweud slawr diydd) oedd hwn. Fe bregethais i ar y croeshoelio fel esiampl o ennill trwy golli, o fuddgoliaeth trwy ostyngeiddrwydd yn hytrach na grym. Unwaith eto fe gymerais beth oedd Iesu wedi'i ddweud yn sail i'r hyn yr oedd gen i i'w ddweud: "Bydd y sawl sy'n meddwl am neb ond ei hunan yn colli ei fywyd, tra bydd y sawl sy’n rhoi ei hun yn olaf yn y byd hwn yn ennill bywyd tragwyddol." Cân y byd yw "We are the champions, no time for losers...", ond yr oedd Iesu yn ffrind i 'gollwyr' ac fe ddaeth i'r byd i alw 'collwyr' i'w ddilyn. 'Collwyr' y byd yma, pobol sy'n sylweddoli eu bod nhw'n 'gollwyr' sydd yn y pendraw yn mynd i ennill lle yn nheyrnas Dduw. Roedd plant yr ysgol Sul yn cymryd rhan yn y gwasanaeth hefyd, ac fe arweiniwyd gan reithor plwyf Aberystwyth, sef y Parchg Ganon Suart Bell.

Cyrraedd Sgwâr Owain Glyn Dŵr, AberystwythWedyn bant â ni i ymgasglu wrth y cloc ar dop y Stryd Fawr er mwyn gorymdeithio tu ôl i'r groes lawr i Sgwâr Owain Glyn Dŵr. Ers rhai blynyddoedd bellach mae Cristnogion Aberystwyth wedi dod ynghyd i orymdeithio fore'r Groglith er mwyn tystio i'w ffydd yn y Crist croeshoeliedig fel iachawdwr y byd. Mae'n deimlad rhyfedd i fod yn un o gannoedd yn hytrach na'r degau arferol. Fel arfer bydd y camerâu teledu yno i gofnodi'r digwyddiad ar gyfer y newyddion ac fe fydd pawb yn ymgynull yn Sgwâr Owain Glyn Dŵr er mwyn gwrando ar gyhoeddi'r efengyl. Eleni Major Ray Hobbins o Fyddin yr Iachawdwriaeth a gyhoeddodd y neges honno yn glir ac yn eglur.


Lawrlwytho'r ffeil

Rhagor o luniau o Gapel Seion, Stryd y Popty, Aberystywth.

Taflen gwasanaeth Gwener y Groglith yn Eglwys S. Mair, Aberystwyth.

Rhagor o luniau o'r orymdaith ddydd Gwener y Groglith.

Tagiau Technorati: | | .