Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-04-19

Yr wythnos fawr (3)

Rhwng dydd Gwener y Groglith a Dydd y Pasg daw'r Sadwrn Sanctaidd. Dydd o ddisgwyl am ddathliadau'r dydd trannoeth. Fe dreuliais i'r bore yn gwneud yr un peth. Roedd pobol wedi dod i Eglwys y Santes Fair er mwyn addurno'r lle yn barod ar gyfer y Pasg - blodau melyn a gwyn sy'n draddodiadol ar gyfer hyn, ac nid yw'n arferol inni droi cefn ar draddodiad heb bod rhaid gwneud yn Eglwys S. Mair. Roedd nifer go dda wedi dod ynghyd erbyn i mi gyrraedd. I ddweud y gwir roedd y gwaith wedi'i wneud heblaw am un neu ddau bethau fan hyn a fan acw a doedd gen i ddim rhyw lawer o gyfraniad i'w wneud. Nid blodau yw fy nghryfder i, ond roedd hi'n dda cael bod yno i rannu yn y gwaith cymunedol o addurno'r lle.

Blodau'r Pasg, Eglwys S. Mair, AberystwythWrth ddod i'r eglwys fe welais SM yn gadael ar ôl bod yn addurno "ei ffenest". Holodd a oedd gen i gamera ac a fyddwn i'n fodlon tynnu llun ohoni. A dyma fi'n penderfynu yn y fan a'r lle y busen i'n tynnu llun yr holl flodau yn Eglwys S. Mair y bore hwnnw. Mae blodau yn gwywo yn gyflym iawn, ac felly teimlwn ei bod yn syniad da i gadw cofnod o flodau un Pasg yn Eglwys S. Mair.

Y fedyddfaen, Eglwys S. Mair, Aberystwyth


Rhagor o luniau o flodau'r Pasg yn Eglwys S. Mair, Aberystwyth.

Tagiau Technorati: | | .