Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-04-20

Taith i Ystrad Fflur (1)

Ar ôl bod yn yr eglwys fore Sadwrn fe es i gael cinio gyda Dr WD a Miss MP yn Ystafell De Cambria yn yr hen goleg diwinyddol. Dwi'n hoff iawn o'r bwyty hwn ar gyfer cinio dydd Sadwrn ac fel arfer dwi'n cael Panini'r arddwr - sef ham, caws a siwtni afal. Mae'n dda iawn. Ond heddiw oherwydd y cwmni roedd y bwyd yn eilbeth, y prif bwyslais oedd y sgwrs ddifyr. Un o'r pethau wnaethon ni eu trafod oedd pam fod y Sistersiaid wedi dewis sefydlu tŷ yn Ystrad Fflur. Roeddwn i wedi bod yn trafod hyn yn y gwaith yn ystod yr wythnos. Mae llawer iawn dai'r Sistersiaid yng Nghymru mewn lleoedd sy'n arbennig o brydferth yn ôl ein meddwl ninnau, ond y cwestiwn mawr oedd ai dyna oedd agwedd meddwl y canol oesoedd. Mewn geiriau eraill pryd ddechreuodd dyn edrych ar dirwedd a thirlun a phenderfynu bod yna brydferthwch yno. Roeddwn i'n meddwl taw rhywbeth cymharol ddiweddar oedd y syniad o brydferthwch yn y byd naturiol ac eraill yn methu'n deg â chredu na allai rhywun o gael ei hun yn Ystrad Fflur, Tyndyrn, Glynegystl neu Gwm-hir fethu ymdeimlo â rhywbeth. Nid oedd neb ohonom yn ddigon gwybodus i ateb y cwestiwn go iawn, felly fe gytunwyd i fynd i feddwl dros y peth a chasglu tystiolaeth gan ddychwelyd at y pwnc rywbryd yn y dyfodol.

Yr eglwys, GwnnwsYmunodd RO â ni i ginio a pharhau gyda'r drafodaeth. Pan gynigodd RO inni fynd am dro wedi cinio fe wnes i gynnig pam na fusen ni'n mynd am Ystrad Fflur i brofi'r ddamcaniaeth am brydferthwch y dirwedd yn y cnawd. Ac felly bant â'r ddau ohonom i gyfeiriad Ystrad Fflur. Ond ar y ffordd dyma alw heibio i eglwys Gwnnws. Yn y 1990au bues i'n ymweld â'r eglwys hon yn fisol am ryw ddwy flynedd i gynnal gwasanaeth teuluol yma pan roedden nhw heb weinidog. Roedd hynny'n brofiad da iawn. Y tro cyntaf imi gynnal gwasanaeth yno fe ddigwyddodd tro trwstan imi. Roedd yn rhaid dod i'r festri (nid neuadd ar wahân fel mewn capeli, ond yr ystafell lle bydd y gweinidog sy'n arwain y gwasanaeth yn newid i'w urddwisg) er mwyn canu'r gloch. Bydd y gloch yn cael ei chanu cyn bob gwasanaeth am dipyn o amser, a phan fyddai'r gloch yn tawelu mae'n amser i'r gwasanaeth gychwyn. Ar y Sul hwn roeddwn i wedi mynd i'r festri newid i fy ngwisg bregethu ac roedd dau fachgen yn canu'r gloch yno gyda brwdfrydedd mawr. Daeth hi'n amser cychwyn y gwasanaeth ac roedden nhw'n dal i ganu'r gloch fel petai yfory ddim yn bod a finnau yn disgwyl yn amyneddgar iddyn nhw orffen er mwyn imi gael dechrau fy ngwaith. Aeth pum munud heibio ac roedden nhw'n dal i ganu'r gloch a finnau'n edrych mewn gofid ar fy wats bob 30 eiliad ac yn poeni beth oedd yn mynd i ddigwydd. Yn y diwedd dyma fi'n mentro holi'r bechgyn "Pryd ych chi'n mynd i stopo canu'r gloch?" a dyna hwy'n ateb, "Pan fyddwch chi'n dweud wrthon ni i wneud." Dechreuodd y gwasanaeth cyntaf hwnnw bron i ddeng munud yn hwyr oherwydd hynny. Dyna ddameg mewn diffyg cyfathrebu yn arwain at gamddealltwriaeth a thrafferthion!

Blodau ac adnod ym mhorth yr eglwys, Gwnnws


Roeddwn i wedi angofio pa mor wych oedd safle Gwnnws yn uchel i fyny ar fryn yn edrych i lawr am Lanilar. Yr oeddwn wedi anghofio hefyd pa mor ddiddorol oedd y cofebau a'r cerrig beddau yn y fynwent. Nid oedd yr eglwys ei hun ar agor, ond roedd y porth, ac yno saif carreg goffa gynnar. Mae dydd Sadwrn cyn y Pasg fel arfer yn ddiwrnod da i ymweld ag eglwysi gan bod y gwaith o addurno yn mynd yn ei flaen a'r adeiladau ar agor. Mae'n amwlg fod rhai wedi bod yn gynnar yng Ngwnnws i wneud y gwaith gan bod tusw o flodau melyn hardd yn y porth o dan adnod drawiadaol iawn, "Gwylia ar dy droed pan fyddech yn myned i Dŷ Dduw", neu "Gwylia dy droed pan fyddi'n mynd i dŷ Dduw" yn y cyfieithiad newydd diwygedig - Pregethwr 5.1 yw'r cyfeiriad gyda llaw.

Rhagor o luniau o eglwys Gwnnws.

Tagiau Technorati: | | .