Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-04-18

Cwmrheidol

CwmrheidolPrynhawn dydd Gwener y Groglith dwi'n gwybod y gallwn i fod wedi mynd i'r gwasanaeth tair awr yn Eglwys y Drindod o 12 tan 3 yn myfyrio ar ddioddefaint Iesu ar y groeso. Ond dwi'n ofni fy mod i wedi derbyn gwahoddiad gan RO i fynd i grwydro. Fe aethon ni i Gwm Rheidol, o dan yr esgus ein bod ni'n mynd i fynd i weld ieir bach yr haf y Magic of Life Butterfly House. Dwi'n gwybod fy mod ailadrodd ystrydeb bellach, ond mae cymaint i'w weld a'i wneud yn ardal Aberystwyth, pethau nad ydw i wedi'u gweld erioed neu o leiaf ers chwarter canrif.

Roedd y tywydd yn ardderchog - yr haul yn disgleirio a'r awyr yn las, er roedd yr awel yn medru bod yn llym o hyd. Y lle cyntaf inni ddod iddo oedd Canolfan ymwelwyr E.ON ger Cronfa Cwmrheidol. Heddiw oedd y diwrnod cyntaf y tymor newydd i'r ganolfan ymwelwyr. Roedd y lle'n ddigon croesawgar a chymharol ddiddorol. Yr oedd y pwyslais ar ynni adnewyddol - dŵr, gwynt a biomas yn bennaf. Roedd 'na le i gael paned yno o dan do neu mas yn yr awyr agored yn edrych mas dros y gronfa. Nid oedd y staff y bues i'n siarad gyda nhw yn siarad Cymraeg, rhywbeth dwi wastad yn meddwl sy'n anffodus mewn atynfa i ymwelwyr yn nghefn gwlad Ceredigion. Yr hyn sy'n waeth yw ei bod hi'n amlwg nad yw staff yn cael eu hyfforddi ar sut i ddelio gyda rhywun sy'n cychwyn sgwrs gyda nhw yn Gymraeg. Dylai hynny fod yn sylfaenol ar gyfer unrhyw un gweithio gyda'r cyhoedd yn enwedig yma. Hyd nes i'r agwedd "everyone can speak English" newid fydd dim llawer o gynnydd ar y mater hyn.

Briallu, CwmrheidolRhyw filltir o'r ganolfan saif yr orsaf bŵer ei hun ac roedd hi'n bosib cael eich tywys o gwmpas yr orsaf ar adegau penodol. Roeddwn i'n teimlo fel cerdded o'r ganolfan ymwelwyr at yr orsaf gan fod y tywydd mor braf. Roedd y daith yn un ddigon pleserus, ond erbyn inni gyrraedd yr orsaf doedd yr un o'r ddau ohonom yn teimlo fel mynd ar daith o gwmpas y lle. Felly ar ôl imi adennill fy nerth dyma gerdded yn ôl i'r ganolfan ymwelwyr i gael dishgled o de, neu gwpaned o bop i fod yn gwbl gywir. Wrth inni gerdded fe gawsom y pleser o weld y trên bach stêm yn dringo i fyny llethrau'r cwm ar ei ffordd i Bontarfynach. Nid aethon ni i'r tŷ ieir bach yr haf am reswm fydd yn ddealladwy i bobol Ceredigion - roedd hi'n costio dros £4 yr un i fynd i mewn, ac felly er mwyn cael gwerth ein harian roedd yn rhaid cael amser go lew yno. Byddwn yn dychwelyd mae'n siŵr i weld yr ieir bach rywbryd eto.

Hen weithfeydd, CwmrheidolNid oedd ein taith ar ben eto. Rhaid oedd dringo i fyny i flaen y cwm; cyn belled ag yr oedd hi'n bosib mynd mewn car. Ar ben y cwm ceir rhaeadrau ar afon Rheidol ac hefyd olion o weithfeydd plwm, sinc a mwynau eraill. Er bod hyn yn creu tirwedd deniadol gyda lliwiau egsotig y mwynau yn trawsnewid y lle, rhaid oedd cofio bod y mwynau yn wenwynig a'r hen weithfeydd yn beryglus. Wedyn roedd hi'n amser inni droi yn ôl am Aberystwyth ac i weld beth oedd wedi bod yn digwydd yno.


Lawrlwytho'r ffeil

Rhagor o luniau o'r daith i Gwmrheidol.

Tagiau Technorati: | | .