Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-04-11

Ymlaen i Draeth Maelgwn

Traeth MaelgwnNid yr Amlosgfa oedd yr unig le inni ymweld ag ef brynhawn Sul. Wedi oedi fan 'ny fe aethom yn ein blaenau i'r Borth ac Ynys-las. Wedi'r Amlosgfa Ynys-las oedd yr ail le ar fy rhestr o lefyd i ymweld â hwy. Mae mynd am Ynys-las a Thraeth Maelgwn wastad yn dod ag atgofion imi, atgofion am ddyddiau coleg ac am ddianc am y prynhawn o'r dref mewn car cyfaill a mynd â phicnic syml i'r twyni neu i'r traeth. Dwi'n gwybod fy mod yn mynd yn hen pan fo'r atgofion yn baradwysaidd fel y maen nhw wedi gwneud yn barod yn fy meddwl i. Wrth gyrraedd Ynys-las ddydd Sul nid oedd yn teimlo'n baradwysiadd gyda'r gwynt yn chwythu a hithau'n bwrw glaw. Ond wrth gysgodi yn y car ac edrych tuag at Aberdyfi roedd olion hen baradwys i'w gweld yn eglur o'n blaenau. Ar wefan ryfeddol Plwyf Llangynfelyn ceir yr hanes am sut y cafodd Traeth Maelgwn yr enw. R. J. Thomas sy'n adrodd yr hanes yn Hanes Ysgol Llangynfelyn 1876-1976:
Tu yma i'r Ynys-las (ym mhlwyf Llangynfelyn) gorwedd Traeth Maelgwn yn union gyferbyn ag Aberdyfi. A dyna ddiddorol yw'r stori sut y cafodd Traeth Maelgwn ei enw. Tywysog ar Ynys Môn oedd Maelgwn Hir, ond fe ddaeth yn Faelgwn Gwynedd drwy iddo, yn ôl yr hanes a adroddir yn yr Hen Gyfreithiau, gael y llaw drechaf ar fân dywysogion eraill Cymru. Nid eu gorchfygu mewn brwydrau a wnaeth, ond eu trechu mewn cystadleuaeth, a hynny trwy gast ystrywgar. Cynhaliwyd yr ornest rhwng y tywysogion hyn ar y traeth ger aber afon Dyfi. A dyma'r gamp a drefnwyd — fod y tywysogion oll i eistedd mewn cadeiriau ar y traeth a bod y sawl ohonynt a allai ddal i eistedd yn ei gadair yn wyneb grym y llanw i'w gydnabod yn ben arnynt oll. Y ddichell a ddyfeisiodd y tywysog Maelgwn oedd cael llunio cadair ar ei gyfer ei hun ag adenydd dani wedi eu hiro â chwyr; rhyw fath o floating chair megis fel y gallai ef ddal i eistedd yn ei gadair, a honno'n nofio ar wyneb y tonnau. Drwy'r cynllwyn yma fel yr eiddo'r brenin Canute yn Lloegr, fe Iwy-ddodd Maelgwn i ennill y gamp a chael ei goroni'n frenin ar yr holl dywysogion. A dyna sut, yn ôl y chwedl, y cafodd Traeth Maelgwn ei enw.
Mae'n rhyfedd meddwl pa mor fyw yw hanes yng Nghymru. Mae gan bob lle ei stori i'w ddweud am y gorffennol. Fel 'na mae hi pan fydda i'n mynd 'nôl i Fynachlog-ddu, fel y gall nifer sydd wedi'i diflasu yn llwyr gan hanes pob carreg dystio.

Fe wnes i dynnu'r fideo hyn o Ynys-las, Traeth Maelgwn ac Aberdyfi. Mae'n wyntog iawn!


Lawrlwytho'r ffeil

Rhagor o luniau o Ynys-las, Traeth Maelgwn ac Aberdyrfi.

Tagiau Technorati: | | .