Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-04-10

Trip i'r amlosgfa

Amlosgfa AberystwythPetaech chi'n cael cynnig trip ar brynhawn Sul ble ddewisech chi fynd? Wel dyna ddigwyddodd imi ddoe, fe wnaeth cyfaill annwyl gynnig mynd am dro. Dwi'n siŵr iddi ddod yn sioc iddo pan ddywedais fy mod am fynd i weld Amlosgfa Aberystwyth. Ond am ryw reswm dyna'r lle'r oeddwn i am fynd, a chwarae teg i'm cyfaill bu'n ddigon grasol i beidio ag amau fy newis ar goedd! Mae'n werth ymweld â'r amlosgfa ond er mwyn profi beth mae'r hysbyseb yn ei ddweud, "Aberystwyth enjoys arguably the most beautiful setting of any crematorium in the UK". Dwi ddim yn gyfarwydd iawn â llawer am amlosgfeydd eraill Cymru - er fy mod wedi bod yn amlosgfeydd Margam a Bryndrain, Caerdydd. Wrth gwrs dwi'n adnabod Amlosgfa Parc Gwyn, Arberth yn reit dda, ac er bod y wlad o gwmpas fan'ny yn hyfryd mae'n rhaid imi gytuno gyda sbin y Westerleigh Group plc fod yr olygfa o Amlosgfa Abersytwyth yn drawiadol iawn. Mae Amlosgfa Aberystwyth yn sefydliad cymharol ddiweddar, cafodd ei hagor yn 1994, ac felly ni fu cyfle i gasglu cymaint â hynny o gofebau ynghyd yno. Ond wrth gerdded o gwmpas yr ardd goffa fe ddaethom o hyd i gofeb J. E. Caerwyn Williams a'i wraig Gwen.

Mae Amlosgfa Parc Gwyn, Arberth wedi cyrraedd yr oes fodern go iawn gan ei bod yn bosib gweld llyfr coffa Parc Gwyn ar-lein. On'd yw pethe'n newid?

Rhagor o luniau o Amlosgfa Aberystwyth.

Tagiau Technorati: .