Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-04-24

Tywydd braf a ffenestri brwnt

Mapiau a thocyn, Gorsaf MachynllethMae'n rhaid bod y daith ar Reilffordd y Cambrian o Aberystwyth hyd at Bwllheli yn un o'r teithiau hyfrytaf ym Mhrydain. Nid yw'n rhyfedd ei bod yn cael ei gwerthu felly gan y Croeso Cymru (aka Adran Fenter, Arloesi a Rhwydweithiau Llywodraeth y Cynulliad) a Threnau Arriva Cymru. Mae'n drueni mawr felly bod ffenestri y trenau wnes i deithio arnynt mor frwnt fel nad oedd hi'n bosib gweld y golygfeydd trawiadol yn iawn! RO a minnau oedd ar y trip ar reilffordd y Cambrian, ond o Aberystwyth hyd at Fachynlleth fe gawsom gwmni DML - yr oedd yntau ar ei ffordd i ogledd Powys i wrando darlith wedi'i threfnu gan y Powysland Club ar lofruddiaethau Garthbeibio yn Neuadd Gymunedol Aberriw. Roedd RO a finnau heb osod nod cweit mor uuchel i ni'n hunain: roedden ni'n mynd i dreulio'r prynhawn yn Abermaw, neu'r Bermo.

Coffi ar y trênWrth gwrs rhan o'r daith oedd cael mynd ar reilffordd y Cambrian. Nid oedd RO yn cofio iddo fod o'r blaen. Roeddwn i wedi bod nawr ac yn y man dros y ddeng mlynedd diwethaf, ond mae wastad yn bleser teithio ar y lein hon. Dwi'n cofio mynd pan yn ddisgybl ysgol a chael tipyn o antur wrth orfod aros yng Nghyffordd Dyfi am thyw dair awr oherwydd i un trên ar ôl y llall gael ei ganslo. Ychydig o drenau sy'n rhedeg heddiw, ac roedd yr amserlen heb ei chynllunio ar gyfer pobol oedd am fynd o Abersytwyth ar hyd yr arfordir gan ei bod hi'n rhaid aros am ychydig dros awr ym Machynlleth nes bod y cysylltiad yn dod. Fel arwydd pellach o fy henaint roeddwn wedi dod â dwy fflasgiad o goffi inni gael yn ystod yr arhosiad, ac roedd yn flasus iawn hefyd. Roeddwn i wedi dod â digon i ni gael peth yn ddiweddarach ar ein taith ac roedd hwnnw yr un mor flasus. Pan oeddwn i'n ifanc dwi'n cofio gwawdio fy mam am sut roedd hi a'i ffrind yn mwynhau te o fflasg thermos ar drip i Ddinbych-y-pysgod a dyma fi yn cael fy hun yn yr un sefyllfa yn gywir.

Chucks American Diner, AbermawHeblaw am y ffenestri brwnt roedd y daith o Fachynlleth i Abermaw yn ddigon diddorol. Doedd Abermaw ei hun ddim cynddrwg â hynny chwaith, er taw ymateb pawb ddywedais i wrthynt ein bod yn mynd yno oedd "Pam ych chi am fynd i Abermaw?" Roedd gennym ni ddwy awr ac ychydig yn y dref. Digon o amser i gael cinio blasus yng ngwesty Tal-y-don ac i gerdded yn hamddenol o gwmpas y lle i weld beth oedd i'w weld. Ar y cyfan tref wedi gweld y dyddiau da yw Abermaw ac fel mae'n edrych heddiw does dim rhyw arwyddion bod y dyddiau da yn mynd i ddychwelyd. Roedd yr hen dref wedi'i hadeiladu o gerrig solet nodweddiadol o dde Gwynedd. Adeiladau concrit siabi yw'r rhai modern sy'n gwneud i'r dref ymddangos yn ddi-raen. Ond fel yr oeddwn yn mynnu dweud yn gyson, a hynny siwr o fod yn brawf ar amynedd RO, mae hyd yn oed hanes tref fel hyn yn ddiddorol o gael rhywun i'w esbonio yn iawn. Ond ar y wibdaith hon roedd yn rhaid inni ddibynnu ar ein gwybodaeth ein hunain i geisio dadansoddi sut roedd Abermaw wedi dod i'r fan lle roedd ar hyn o bryd.

Lluniau o'r daith ar y trên i Abermaw.

Tagiau Technorati: | | .