Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-04-24

Haf 2004

Ymwelwyr yn Abaty TyndyrnWrth geisio tacluso (mae'n frwydr barhaus) fe ddes ar draws CD o ffotograffau gan GWJ a dynnodd yn ystod ein harosiad yng Nghroes Heolydd, Basaleg yn ystod Eisteddfod Casnewydd 2004. Does dim lluniau o'r eisteddfod yno ond mae 'na ffotograffau hyfryd o ddiwrnod poeth iawn ar ddechrau'r wythnos pan aethon ni i gyd ar daith i Abaty Tyndyrn. Hyd yn oed yng nghanol yr haf, a'r twristiaid yn eu heidiau o gwmpas y lle roedd yr heneb yn dal i lwyddo i wneud ei farc. Dwi'n diolch i GWJ am y ffotograffau yma sy'n dod â'r fath atgofion melys yn ôl i mi. Roeddwn i'n arbennig o falch o weld y llun o Wern y clepa, cartref Ifor Hael. Roedd hi'n brofiad rhyfedd i sylweddoli fod Dafydd ap Gwilym wedi bod yma hefyd o'n blaen ni!

Y lluniau o Awst 2004 y des i o hyd iddyn nhw wrth lanhau a thacluso.

Tagiau Technorati: | | | .