Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-04-22

Gwyngalchu arian

Erbyn hyn mae'n rhaid eich bod wedi cael llond bola o wybod am beth mae'n ei olygu imi fod yn un o wardeniaid Eglwys S. Mair yn Aberystwyth. Ond mae'n rhaid imi ddweud un stori arall. Ddydd Mercher diwethaf roedd yn rhaid newid yr enwau ar gyfrifon banc yr Eglwys. Roedd hynny'n arfer bod yn beth digon hawn i'w wneud - llenwi ffurflen a dyna ni. Ond diolch i fasnachwyr rhyngwladol mewn cyffuriau, celloedd o derfysgwyr a'u tebyg nid felly y mae nawr. Mae rheolau newydd wedi'u gweithredu er mwyn atal yr hyn y mae banc NatWest yn ei alw yn 'gwyngalchu arian'. Roedd yn rhaid imi fynd mewn i'r banc gyda fy mhasbort, fy nhrwydded yrru a bil iwtiliti diweddar. Popeth yn iawn gyda'r ddau gyntaf, ond yn raddol dwi'n derbyn fy miliau i yn electronig... Yn y diwedd roedd y banc yn fodlon derbyn taw fi oedd fi. Ond roedd hynny'n golygu cymryd amser o'r gwaith. Diolch byth roeddwn i ar fy ngwyliau yr wythnos hon ac felly doedd hyn i gyd ddim yn llawer o drafferth. I ddweud y gwir fe wnes i gyfuno'r cyfan gyda chinio hamddenol gyda chyn-warden Eglwys S. Mair yng nghaffi Caesar's.

Rhagor o wybodaeth am wyngalchu arian o wefan y Trysorlys.

Tagiau Technorati: .