Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-04-07

Byw mewn byd wedi'i gyfieithu


{Dwi'n gwybod bod y llun yn un gwael ond mae'r llinellau cyntaf yn ddarllen "CYFLWYNIAD AWR GINIO 'Morloi Cymreig yng nghasgliad y Llyfrgell Genedlaethol / LUNCHTIME LECTURE 'Welsh Seals in the National Library's collection.'!]

Dwi ddim yn beio'r cyfieithydd am y cyfieithiad cywir ond rong hyn - seliau o gŵyr yn hytrach na morloi o gig a gwaed yw'r pwnc. Dyna beth sy'n digwydd wrth gyfieithu heb gyd-destun, ond mae'n dal i fod yn reit ddifyr. Yr hyn sy'n drist yw bod y byd Cymraeg yn cau amdanaf, mae'n mynd yn llai ac yn llai o ddydd i ddydd, ac fyw na dim byd arall mae'n cael ei gyfieithu - rhywbeth sy'n ei wneud yn llai fyth. Fesul gair mae fy mywyd i yn ei grynswth yn troi yn un cyfieithiad mawr, cyn bo hir fydd dim byd yn cael ei gyfansoddi yn wreiddiol mewn Cymraeg ond bydd y cyfan yn gorfod mynd trwy wasanaeth cyfieithu Llywodraeth y Cynulliad er mwyn sicrhau safon ac effeithlonrwydd a chydymffurfiaeth.

I weld y cyfieithiad yn ei gyd-destun.

Tagiau Technorati: .