Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-04-21

Taith i Ystrad Fflur (3)

Yr hen gapel, Ysbyty YstwythFe benderfynon ni ddychwelyd i Aberystwyth ar hyd ffordd arall. Felly wedi inni gyrraedd yn ôl ym Mhontrhydfendigaid o Ystrad Fflur dyma gymryd y ffordd drwy Ffair-rhos am Ysbyty Ystwyth. Doeddwn i ddim wedi bod yn yr ardal ers sawl blwyddyn. Y tro diwethaf oedd pan bu i'r ficer ymadael ac fel darllenydd lleyd fe fues i'n dod yn gyson am dipyn i gadw gwasanaethau yn yr eglwys. Bryd hynny roedd capel Maesglas, capel Dafydd Morgan (1814-1883) prif arweinydd diwygiad 1859, yn sefyll uwchlaw'r pentref, wrth yrru heibio heddiw dim ond lle gwag sydd ar ôl yno i bob pwrpas. Dymchwelwyd y capel mawreddog a chodwyd byngalo ar y safle. Mae hen gapel Maesglas yn dal i sefyll yng nghanol y pentref ac fe aethon ni heibio i hwnnw ac roedd gwaith mawr ymlaen yno ond roedd yn edrych yn debyg i mi fod y lle'n cael ei droi yn dŷ byw, ond dwi ddim yn gwybod a ydw i'n iawn yn hynny o beth.

Dyma sut mae'r Bywgraffiadur Ar-lein yn adrodd hanes Dafydd, neu David Morgan:
MORGAN, DAVID (1814-1883), diwygiwr crefyddol; g. yn 1814 ym Melin Fodcoll, rhwng Pontarfynach a Chwmystwyth, sir Aberteifi, y trydydd o naw plentyn Dafydd Morgans, melinydd a saer, a Catherine ei wraig. Symudodd y teulu deirgwaith cyn ymsefydlu ym Melin y Lefel (a adeiladwyd gan ei dad) yn ardal Ysbyty Ystwyth, ac yno y bu'n byw hyd ei briodas. Dysgodd grefft saer yng ngweithdy ei dad. Dechreuodd bregethu gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn 1842 ac ordeiniwyd ef yng nghymdeithasfa Trefin ar 20 Mai 1857. Yn y flwyddyn ganlynol daeth i gysylltiad â Humphrey R. Jones, a oedd newydd ddychwelyd o Unol Daleithiau'r America yn ddwfn o dan ddylanwad diwygiad crefyddol yno, ac a enynasai eisoes fflam diwygiad yng ngogledd Aberteifi. Ymunodd Morgan ag ef, a than ddylanwad y ddau efengylwr ar y dechrau, a Morgan ei hunan ar ôl hynny, wedi i iechyd corff a meddwl Jones dorri i lawr, ymledodd ‘Diwygiad ‘59,’ fel y'i gelwir, trwy Gymru oll a thu hwnt. Yn ystod 1859-60 teithiodd David Morgan trwy bob rhan o Gymru, gan gynnal yn fynych dair neu bedair oedfa mewn diwrnod. Wedi i wres y diwygiad oeri dychwelodd at ei ddyletswyddau gweinidogaethol yn Ysbyty, ac ym Mawrth 1868 galwyd ef yn ffurfiol i fugeilio'r eglwys yno. Rhoes yr un gwasanaeth hefyd i eglwys Swyddffynnon.

Yn 1865 priododd Jane, ferch ieuengaf y Parch. Evan Evans, Aberffrwd, a symud i Glynberws, lle y treuliodd weddill ei oes. Bu iddynt saith o blant. Bu f. 27 Hydref a'i gladdu yn Ysbyty Ystwyth
Dwi'n cynnwys hanes Dafydd Morgan i ddangos sut bu'r llefydd sy'n ymddangos yn ddiarffordd ac yn ddigyffro iawn heddiw wedi bod yn ganolfannau o bwys bron â bod o fewn cof rhai.

Hen waith Fron-goch, TrisantDwi ddim yn gwybod ble mae bedd Dafydd Morgan felly wnaethon ni ddim ymdrech i chwilio amdano ond fe aethon ni lan heibio i'r hen gapel ac yna i fyny uwchben Ysbyty Ystwyth cyn dychwelyd yn ôl lawr i Bont-rhyd-y-groes gyda'i gapel Methodistaidd (h.y. Weselaidd) enfawr i fyny ar y llethr i bawb ei weld. Mae hwnnw hefyd wedi cau bellach ac arwydd ar werth arno. Mae'n rhyfedd meddwl am gefn gwlad Ceredigion fel cymuned ôl-ddiwydiannol, ond dyna yn gywir yw hi a dyna sy'n gyfrifol am yr argraff fod pethau 'ar i lawr' yma. Fe gawson ni ryw syniad o faint y dywidiant cloddio am fwynau wrth inni ddychwelyd trwy Trisant a mynd heibio i iard goed Fron-goch sydd wedi'i gosod ar ganol olion gwaith mwyn Fron-goch. Mae'r lle yn enfawr.

Wedi aros wrth Lyn Fron-goch, un o'r llynnoedd a oedd yn bwydo'r dŵr a oedd ei angen i yrru peirannau gwaith mwyn Fron-goch, ymlaen â ni trwy Drisant ac allan ar y ffordd fawr o Bontarfynach i Aberystwyth a bant â ni am adref. Diwrnod hyfryd a diddorol iawn. Mae cymaint i'w ddysgu am Geredigion.

Yr holl luniau o'r daith i Ystrad Fflur.

Tagiau Technorati: | .