Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-04-20

Taith i Ystrad Fflur (2)

Abaty Ystrad FflurMae 'na rywbeth hudolus am Ystrad Fflur sy'n anodd i'w esbonio. Byddaf yn cael fy nhynnu yn ôl yma dro ar ôl tro a byddaf byth yn blino ar ymweld â'r lle. Dwi ddim yn cofio y tro cyntaf imi ddod yma - ond dwi'n cofio'r enw o wersi Cymraeg yn Ysgol Preseli pan wnaeth y Prifardd (erbyn hyn) Eirwyn George fy nghyflwyno i waith T. Gwynn Jones am y tro cyntaf yn 1971, canmlwyddiant ei eni. Fe syrthiais mewn cariad gyda'i waith o'r funud honno. Un o'r darnau cynnar 'na oedd y gerdd 'Ystrad Fflur' ac ers hynny dwi wedi cysylltu'r lle â "dail yn murmur yn yr awel". Cafodd Archesgob Caer-gaint, Rowan Williams, ei ysbrydoli i gyfieithu'r gerdd hon i Saesneg, dyma sut mae'r dail swnio yn ei fersiwn ef:
Wind murmurs in the trees at Ystrad Fflur,
but does not wake
the dozen abbots dozing in their tombs,
while the leaves shake.
Marweidd-dra y gwelai T. Gwynn Jones o'i gwmpas ym mhob man hyd yn oed yma, ond yn Ystrad Fflur daeth o hyd i fan oedd yn medru lliniaru ychydig ar y teimladau hynny:
Ond er mai angof angau prudd
ar adfail ffydd a welaf,
pan rodiwyf ddaear Ystrad Fflur,
o'm dolur ymdawelaf.
Dros y blynyddoedd dwi wedi dysgu mwy a mwy am y lle ac am y Sistersiaid a sefydlodd eu cymuned yma yn ddeuddegfed ganrif ac mae'r lle wedi bod yn denu pobol ers hynny. Yr hyn sydd wedi fy nenu i yw cysylltiad y lle gydag achos Cymru yn yr ymrafael â Lloegr a gwaith y mynachod yn llunio rhai o'n llawysgrifau pwysicaf. Mae'n debyg taw mynachod Ystrad Fflur oedd yn gyfrifol am Lawysgrif Hendregadredd, Llyfr Gwyn Rhydderch, a Brut y Tywysogion. Mae'r llawysgrifau hyn bellach yn y Llyfrgell Genedlaethol. Yr hyn sy'n ddiddorol yw ei bod yn bosib i'r Llyfr Gwyn gael ei lunio ar gyfer Rhydderch ab Ieuan Llwyd o Barcrhydderch, Llangeitho. Yr oedd yntau yn ei dro yn fab i Ieuan Llwyd y canodd Dafydd ap Gwilym fawl iddo. Hoffwn wybod llawer mwy am hyn i gyd pan fydd gen i'r amser.

Ywen, Ystrad FflurRoedd abaty Ystrad Fflur yn gangen o abaty Hendy-gwyn a sefydlwyd yn 1164. Yn fuan iawn fe ddaeth o dan nawdd yr Arglwydd Rhys, tywysog Deheubarth a fu farw yn 1197. Ni wnaeth yr abaty anghofio y cysylltiad gyda thywysogion Cymru ac yn gyson dros y blynyddoedd gwelid Ystrad Fflur yn sefyll gyda'r Cymry yn erbyn y bygythiad o du'r Sais. Ac wrth gwrs dyw hi ddim yn llawer iawn o sbort cefnogi'r ochor sy'n colli. Caewyd yr abaty yn 1539 gan ddiwygiadau Henry VIII.

Mae'n rhaid bod ysbryd y Cardi wedi cydio ynof fi 'amser mawr' achos doeddwn i ddim yn teimlo fel talu'r tâl mynediad o £2.95 i weld yr abaty. Pan esboniais wrth y wraig yn y siop oedd yn gwerthu tocynnau fy mod wedi bod yno droeon o'r blaen ac felly ddim yn bwriadu mynd mewn y tro hwn cefais ymateb cydymdeimladol, "Sdim byd wedi newid 'ma!" Yn hytrach na threulio'r amser yn yr abaty bu RO a minnau yn crwydro'r fynwent a'r eglwys. Mae cysgod teulu Pantyfedwen yn drwm ar y lle yn llythrennol ac yn ffigurol. Y tro hwn bues i'n treulio fy amser yn edrych ar y ffenestri lliw er cof am aelodau o'r teulu yn yr eglwys.

Ystrad Fflur

Rhagor o luniau o fynwent ac eglwys Ystrad Fflur.

Tagiau Technorati: | | .