Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-04-21

Dydd y Pasg

Alelwia! Alelwia! Crist a gyfodwyd!

Daeth y Pasg yn gynnar mewn ffordd o siarad. Fel warden roeddwn yn gyfrifol am sicrhau fod y trefniadau yn iawn yng ngwasanaeth Cymun Bendigaid 8.00am yn Eglwys S. Mair. Roeddwn i ynon yn ddigon cynnar i roi yr hyn o drefn y gallwn i ar yr hyn yr oedd ei angen - sef cynnau'r canhwyllau, gosod allan y llestri cymun, y bara a'r gwin, sicrhau fod y gwres ymlaen, darllen y darlleniadau o'r Hen Destament a'r Testament Newydd, gwneud y casgliad, a sicrhau fod popeth yn iawn. Wrth gwrs mae codi'n fore ddydd y Pasg yn syniad da gan eich bod yn teimlo'n iawn am ddathlu erbyn 10.00am. A dathlu a wnawd yng nghwmni plant ac oedolion mewn gwasanaeth Cymun i deulu'r eglwys. Y pregethwr oedd y ficer, Andy Herrick, ac fe wnaeth sôn am sicrwydd y gobaith Cristogol oherwydd yr atgyfodiad.

Peidied neb â meddwl fy mod wedi troi yn rhyw faniac crefyddol, ond fe fues i yn Eglwys S. Mair unwaith eto yn y nos ar gyfer gwasanaeth yr Hwyrol Weddi pan roedd y rheithor, y Parch Ganon Stuart Bell yn pregethu. Erbyn hyn roeddwn i'n dechrau pallu ond ei neges yntau oedd fod atgyfodiad Iesu yn caniatáu iddo fod yn bresennol gyda ni - yn un i sefyll gyda ni trwy fywyd yn ei fendithio a'i dreialon.

Er fy mod wedi blino, yr oedd yn Ddydd y Pasg i'w gofio.

Capel Horeb, Penrhyn-cochYn y prynhawn roeddwn i'n pregethu unwaith eto, ond y tro hwn yng nghapel Horeb, Penrhyn-coch. Yr wyf yn gwerthfawrogi'r cyfle i ddod i bregethu yma gan fod y gynulleidfa mor groesawgar. Cefais lifft mas gan WH, un o'r diaconiaid a lifft yn ôl gan PT, y cyn-weinidog, a'i wraig MT. Cefais dipyn o syrpreis i weld cynifer o bobol o'r dref yn y gynulleidfa, ond roedd nifer o aelodau Bethel wedi dod mas i uno gyda Horeb ar gyfer oedfa'r Pasg. Cefais groeso twymgalon fel arfer. Fy nhestun oedd cyfarfyddiad Mair â'r Iesu atgyfodedig yn yr ardd a'r gwahaniaeth y gwnaeth hynny i'w bywyd. Roeddwn yn pwysleisio hefyd ei bod wedi derbyn y gwaith o rannu'r newyddion da am yr atgyfodiad - gobaith a bywyd - gydag eraill a'n bod ni yn cael ein galw yn yr un ffordd i wneud yr un gwaith.

Tagiau Technorati: .