Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-04-28

Peter Law a Thŷ'r Arglwyddi

Mae rhan fwyaf o bobol wedi bod yn disgrifio dydd Mercher fel 'Black Wednesday' i Tony Blair, Charles Clarke, Patricia Hewitt, John Prescott a Llafur Newydd. Bid a fo am hynny, roedd dydd Mawrth yn ddiwrnod du yng ngwleidyddiaeth Cymru gyda marw Peter Law. Doeddwn i erioed wedi cwrdd â'r dyn ond roedd y ffaith ei fod wedi teimlo'n ddigon cryf i herio popeth roedd e wedi'i fagu gydag e, popeth oedd yn gwneud iddo deimlo'n saff, yn rheswm dros gredu ei fod yn ddyn o egwyddor. Rydw i wedi clywed am sut roedd ei yrfa bersonol mewn llywodraeth wedi bod yn siom bersonol iddo, ond mae'r ffaith iddo wneud rhywbeth am hynny yn hytrach na dim ond magu chwerwder yn beth arall i'w edmygu. Dwi'n siŵr y busen ni'n dau yn cytuno ac yn anghytuno yn wleidyddol, ond mae'r ffaith iddo wneud ei safiad ac yntau yn dioddef o ganser fel roedd e yn dangos rhuddin cymeriad rhyfeddol. Mae'r hyn sydd wedi digwydd ers iddo farw yn dangos pa mor ddewr yr oedd e i ymladd yn erbyn oligarchi Llafur yng Nghymru. Rhaid edmygu penderfyniad os nad yr achos a'i gyrrodd at hynny. Mae'r ffaith fod y blaid Lafur yn ceisio trefnu is-etholiad Blaenau Gwent cyn i'r dyn gael ei gladdu yn dweud cyfrolau am gyflwr enaid Llafur Newydd. Ond mae'r ffaith fod Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol wedi sefyll yn gryf yn erbyn yr ymgais honno yn dweud llawer amdano yntau hefyd, ac yn f'atgoffa fod peth da yn medru dod o du Tŷ'r Arglwyddi hyd yn oed!

Wedyn fe ddaeth y newydd gan ei weddw bod Llafur Newydd wedi ceisio cynnig sedd i Peter Law yn Nhŷ'r Arglwyddi gan ddangos unwaith eto pa mor ddiwerth yw'r lle hwnnw mewn termau democrataidd, ond hefyd pa mor desprêt oedd y blaid Lafur i beidio â cholli Blaenau Gwent yn yr etholiad cyffredinol. Dwi ddim am ddiflasu darllenwyr Blog Dogfael drwy eu hatgoffa imi nodi pa mor ragrithiol oedd Llafur yn eu hymdriniaeth gwbl wahanol o Dŷ'r Arglwyddi a'r rhestrau rhanbarthol yn y Cynulliad Cenedlaethol - defnyddio un fel ffordd o dalu cymwynas yn ôl neu ddatrys problem gyda'r hawl i bleidleisio ar fesurau sy'n medru effeithio ar fywyd pobol, a galw y llall yn ffordd gefn i mewn i'r Cynulliad Cenedlaethol lle'r oedd collwyr yn troi yn enillwyr. Ni fu mwy o gollwraig na Maggie Jones, ond hi wnaeth ennill ei lle yn y Senedd Brydeinig trwy bleidlais un dyn. Dwi'n teimlo'n gythruddiedig iawn am hyn, felly rhaid imi beidio â cholli fy nhymer yn llwyr na defnyddio gormod o ebychnodau.

Tagiau Technorati: | .