Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-04-07

Anifail parti

RO, DJP a DML yn nhafarn Varsity cyn mynd am The spice of BengalEfallai bod fy syniad i am barti a syniad Tara Palmer-Tomkinson yn reit wahanol ond yr wythnos hon fe alla i gystadlu gyda brenhines y binjo hyd yn oed. Dwi wedi bod i ddau 'barti' mewn dau ddiwrnod - parti pen blwydd a pharti ymddeoliad. Efalli ei bod hi'n braidd yn ymestyniad i alw'r cyntaf yn 'barti' - aeth pedwar ohonom sy'n cyfarfod yn gyson ar gyfer cinio dydd Sul i fwyty The spice of Bengal yn Ffordd Portland i nodi pen blwydd RO. Cefais i pwri corgimwch i ddechrau a biryani fel fy mhrif gwrs. Wedi popadomau i gychwyn roeddwn i'n llawn ar ddiwedd y pryd. Roedd yn flasus dros ben, a gan taw dim ond ni'n pedwar oedd yn y bwyty roedd y lle'n ddigon tawel ac fe gawsom ni sylw arbennig gan y staff!

SO a DAOWedyn neithiwr fe fues mas i barti ymddeoliad DAO yn yr Orendy. Mae'n rhaid bod pawb wedi cael rhyw brofiad o bartïon ymddeoliad. Os nad ydych chi o'r un gehedlaeth fe allwch chi deimlo ychydig ar y cyrio wrth i bawb arall bron gofio am bethau a ddigwyddodd ymhell cyn ichi ymddangos. Ac mae bawb sy'n cofio'r digwyddiad hwn a'r digwyddiad arall yn eu dwble yn chwerthin a chithau ac un neu ddau arall yn edrych yn gwisigol yn ceisio deall beth ddigwyddodd go iawn. Yn ffodus nid dyna'r fath o barti ymddeoliad a gafodd DAO. Yn awyrgylch wareiddiedig yr Orendy dwi'n credu bod y rhan fwyaf wedi mwynhau eu hunain - cafwyd araith fer neu ddwy, ond ar y cyfan noson o sgwrsio a chymdeithasu oedd hi. Roedd y bwyd yn hyfryd - diolch i ymdrechion y trefnydd i gael dêl dda inni.

Rhagor o luniau o ben blwydd RO.

Rhagor o luniau o barti ymddeoliad DAO.

Tagiau Technorati: .