Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-04-04

Bwrw'r Sul

Shân CothiRoedd 'na adeg pan roedd amser coffi fore Llun yn dilyn yr un patrwm cyffredinol bron ym mhob gweithle neu ysgol neu goleg neu unrhyw le lle'r oedd pobol yn cwrdd am sgwrs. Dechrau gyda rhyw sylw am y tywydd, yna beth wnaethpwyd o nos Wener tan nos Sadwr, ac yna beth oedd ar y teledu. Yn yr oes ddiniwed honno pan nad oedd rhyw dair neu bedair sianel deledu i'w cael roedd hi'n hawdd trafod yr un rhaglenni. Mae pethau wedi newid bellach. Mae'r rhan fwyaf â rhyw 30-40 o sianelau, llawer a dros 300. Pa obaith sydd bellach fod neb wedi gwylio'r un rhaglen â chi er mwyn ei thrafod. O leia yn Gymraeg mae ychydig mwy o obaith gan taw dim ond Sianel Pedwar Cymru sydd ar gael inni. Gan fy mod i'n berson cul a mewnblyg fy nghylch cyfeillion a chydnabod (h.y. y mae'r rhan fwyaf ohonynt yn siaradwy Cymraeg ymwybodol a chydwybodol iawn) mae'r sgwrs deledu fore Llun yn digwydd yn reit aml. Wrth gwrs dim ond ar rai boreau Llun y mae'r sgwrs honno yn un felys, ac felly yr oedd hi bore ddoe.

Waw ffactorRoedd dau reswm dros felyster y sgwrs - rownd derfynol Waw ffactor a chychwyn cyfres newydd o Con passionate. Dwi am ddechrau gyda Waw ffactor gan taw dyna achosodd y cyffro mwyaf yn ein tŷ ni; neu'n fwy cywir dyna achosodd i fi gyffroi fwyaf yn ein tŷ. Y rheswm dros y cyffro oedd bod rhoces o Sir Benfro, Einir Dafydd, wedi ennill y gystadleuaeth. Dwi'n sŵr bod 'na lawer o bobol sy'n rhy uchel-ael eu llygaid i edrych ar raglen fel Waw ffactor. Nid ydynt yn gwybod faint o sbort na phleser maen nhw'n ei golli! Ni welais i bob rhaglen yn y gyfres ddiweddaraf ond cefais bleser rhyfeddol o'r rhaglenni a welais i. Dyma raglen oedd y para awr ar nos Wener a'i hailddangos nos Sadwrn - ychydig iawn o bleserau teledyddol sydd i'w cael ar yr un o'r ddwy noson hynny! Ond bu Waw ffactor yn werddon yng nghanol diffeithwch ar 300 o sianelau. Wrth roedd sylweddoli bod un o'r cystadleuwyr yn dod o Breseli ac yn ferch i ddau oedd yn yr ysgol gyda mi yn help i wneud fy mwynhâd yn fwy. Wrth gwrs, ni all dim na neb dynnu oddi ar ansawdd selebrwydd BB Aled - gwir seren pob un o'r cyfresi o Waw ffactor hyd yn hyn.

Rhys Powys yn siarad gyda rhai o'r gynulleidfaEr ei bod hi'n dda gweld pobol Preseli yn llwyddo, dwi'n fodlon mwynhau llwyddiant llefydd eraill hefyd. Un o'r llwyddiannau rhyfeddol hynny yw'r gyfres deledu Con passionate. Roedd y gyfres hon yn un i ennyn trafodaeth bob bore Llun pan roedd yn cael ei darlledu, ac doedd ddoe dim gwahanol oherwydd rhaid cyfaddef fod y gyfres newydd wedi cydio yn fy nychymyg o'r dechrau'n deg. Fel mae'n digwydd roeddwn i wedi cael rhyw gipolwg gynnar ar y gyfres gan bod noson o ddathlu Con passionate wedi'i threfnu yn Drwm Llyfrgell Genedlaethol Cymru nos Iau diwethaf ac fe gefais gadeirio'r noson. Cyfle i weld y bennod gyntaf ac i gael trafodaeth gyda'r awdur, Siwan Jones, un o'r cyfarwyddwyr sef Rhys Powys. Cafwyd cwmni hefyd Dewi Williams o adran comisiynydd drama S4C. Roedd hi'n noson ddifyr ac roedd y bennod gyntaf yn werth ei gweld; fe wnes ei gwylio eto nos Sul a'i mwynhau drachefn.

Rhagor o luniau gwael iawn o'r dathliad yn Nrwm Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Tagiau Technorati: .