Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-03-29

Dai Smith!

Ar ôl yr holl ddisgwyl cafodd enw cadeirydd dros-dro newydd Cyngor y Celfyddydau newydd ei enwi, a'r syndod o blith holl syndodau y byd yw taw enw Dai Smith oedd hwnnw. Petawn i'n Dai Smith, ac wrth gwrs dwi ddim, busen i wedi ceisio pellhau fy hun oddi wrth yr holl beth, achos gall e ddim gwneud dim da iddo yn y pendraw i gael ei gysylltu â'r holl ddadlau. Ond ai Dai Smith yw'r unig unigolyn ym myd y celfyddydau y mae'r Gweinidog yn ei adnabod? Dwi'n holi'r cwestiwn am fod Dai Smith wedi'i apwyntio i olygu cyfres Library of Wales Llywodraeth y Cynullliad gan yr un Gweinidog. Fel pob yr un ohonom ni mae gan Dai Smith ei gryfderau a'i wendidau - ei wendid yw'r ffaith nad yw ei Gymru ef yn ymestyn yn bell iawn i'r gogledd o Ferthyr Tudful nac i'r gorllewin o Ben-y-bont ar Ogwr a'i gymhlethdod gyda'r Gymraeg. Os nad oedd y modd y cafodd ei benodi yn torri'r rheoliadau ar gyfer swyddi cyhoeddus, a'i fod yn cael aros yn ei le, yna dwi yn gobeithio yn fawr iawn y cawn ni gyfle weld peth o'i gyfderau, sef ei frwdfrydedd dros ddiwylliant a'r celfyddydau a'i waith arbennig pan yn olygydd Radio Wales ac y bennaeth rhaglenni Saesneg BBC Cymru. Ond dwi'n ofni y bydd hyn'na i gyd yn diflannu o dan y dadlau gwleidyddol sy'n mynd i barhau.

Yn eironig ddigon y mae'r penodiad yma i gadeiryddiaeth (dros dro) Cyngor y Celfyddydau yn dangos unwaith ac am byth cymaint y mae ef ei hun yn rhan o fyd y crachach cyfryngol Cymreig - "the Welsh language media world, heirs to a bankrupt nonconformist tradition of teachers and preachers" - y mae mor hoff o'u beirniadau â neb. Yr unig wahaniaeth yw nad yw Dai Smith yn siarad Cymraeg ac felly mae'n debyg na all fyth fod yn grachach.

Tagiau Technorati: .