Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-03-28

Yn y wlad

Golygfa ym MlaenplwyfYr wythnos diwethaf bues i mas i Flaenplwyf ar fy ffordd i gyfarfod pwyllgor yng Nghwesty'r Conrah. Roedd hi'n ddiwrnod hyfryd o wanwyn ac fe wnes i synnu fy hun bod hynny wedi fy llenwi â chymaint o gyffro, ond roedd bron â bod yn bosib ichi deimlo'r peth yn llythrennol. Un o'r pethau wnaeth fy nharo i'n arbennig oedd y defaid a'u hŵyn mewn caeau yn agos i'r ffordd, ond bod brain yn nythu ac yn hedfan yn gyson nid nepell o'r fan.

Rhagor o luniau o Flaenplwyf.

Tagiau Technorati: .