 Gall rhywbeth fod mor amlwg fel nad yw dyn yn sylwi arno nes bod rhywun arall yn ei ddangos iddo, neu ei fod yn digwydd gweld y peth ar foment annisgwyl rhyw ddiwrnod. Ond dwi'n ei chael hi'n anodd iawn i gredu nad oedd neb yn y blaid Lafur wedi sylwi ar y benthyciadau hael i'r blaid gan ddynion busnes. Petai cymydog wedi bod yn gyrru car bach cyffredin o gwmpas y lle am flynyddoedd a rhyw ddiwrnod mae 'na Ferrari yn sefyll y tu fas i'w garej buaswn i'n dueddol o feddwl ei bod wedi ennilly loteri, neu wedi etifeddu celc o arian reit sylweddol. A wnaeth neb o'r holl Lafurwyr 'ma ofyn unrhyw gwestiwn i'w hunain neu i'w gilydd am sut roedden nhw'n medru talu am eu hymgyrch etholiadol yn 2005? Dwi'n methu'n deg â chredu fod Jack Dromey yn arwyddio'r sieciau heb ofyn a oedd ganddo'r arian wrth gefn i glirio'r sieciau rheiny. Neu a oedd e'n dilyn yr un egywddor â Tessa Jowell a gadael i rywun arall boeni am hynny!
Gall rhywbeth fod mor amlwg fel nad yw dyn yn sylwi arno nes bod rhywun arall yn ei ddangos iddo, neu ei fod yn digwydd gweld y peth ar foment annisgwyl rhyw ddiwrnod. Ond dwi'n ei chael hi'n anodd iawn i gredu nad oedd neb yn y blaid Lafur wedi sylwi ar y benthyciadau hael i'r blaid gan ddynion busnes. Petai cymydog wedi bod yn gyrru car bach cyffredin o gwmpas y lle am flynyddoedd a rhyw ddiwrnod mae 'na Ferrari yn sefyll y tu fas i'w garej buaswn i'n dueddol o feddwl ei bod wedi ennilly loteri, neu wedi etifeddu celc o arian reit sylweddol. A wnaeth neb o'r holl Lafurwyr 'ma ofyn unrhyw gwestiwn i'w hunain neu i'w gilydd am sut roedden nhw'n medru talu am eu hymgyrch etholiadol yn 2005? Dwi'n methu'n deg â chredu fod Jack Dromey yn arwyddio'r sieciau heb ofyn a oedd ganddo'r arian wrth gefn i glirio'r sieciau rheiny. Neu a oedd e'n dilyn yr un egywddor â Tessa Jowell a gadael i rywun arall boeni am hynny! Gyda llaw cefais i brofiad od o beidio sylwi ar yr amlwg neithiwr. Na, nid y ffaith fod gen i rhyw £13.95 miliwn yn y banc heb imi sylweddoli hynny; ond rhywbeth yr un mor rhyfeddol. Roeddwn i newydd goginio Chili con carne i fi fy hunan ac wedi gwneud popeth yn iawn (yn ôl fy meddwl i) gan gynnwys ychwanegu cnepyn neu ddau o siocled tywyll chwerw o dde America i'r saig ar ddiwedd y broses goginio. Fe gefais i'r chili con carne gyda reis, ac wrth imi osod y cyfan mewn powlen fe sylwais fod y cyfan yn edrych yn rhyw ansyweddol iawn. Ond allwn i ddim o gwbl ddeall pam fod hynny oherwydd roeddwn i wedi dilyn y drefn arferol. Dim ond pan oeddwn i dri chwarter o'r ffordd drwy'r pryd ces i fy nharo gan beth oedd yn bod. Am ryw reswm neu'i gilydd roeddwn i heb roi cidnabêns yn chili! Dwi'n gwybod taw dyna sy'n gwneud chili con carne yn chili con carne, a hebddyn nhw dyw e'n ddim mwy na rhyw stiw sbeillyd. Erbyn hyn dwi wedi ychwanegu y ffa at y gymysgedd ac felly fe fydd cinio heddiw yn well.
Gyda llaw cefais i brofiad od o beidio sylwi ar yr amlwg neithiwr. Na, nid y ffaith fod gen i rhyw £13.95 miliwn yn y banc heb imi sylweddoli hynny; ond rhywbeth yr un mor rhyfeddol. Roeddwn i newydd goginio Chili con carne i fi fy hunan ac wedi gwneud popeth yn iawn (yn ôl fy meddwl i) gan gynnwys ychwanegu cnepyn neu ddau o siocled tywyll chwerw o dde America i'r saig ar ddiwedd y broses goginio. Fe gefais i'r chili con carne gyda reis, ac wrth imi osod y cyfan mewn powlen fe sylwais fod y cyfan yn edrych yn rhyw ansyweddol iawn. Ond allwn i ddim o gwbl ddeall pam fod hynny oherwydd roeddwn i wedi dilyn y drefn arferol. Dim ond pan oeddwn i dri chwarter o'r ffordd drwy'r pryd ces i fy nharo gan beth oedd yn bod. Am ryw reswm neu'i gilydd roeddwn i heb roi cidnabêns yn chili! Dwi'n gwybod taw dyna sy'n gwneud chili con carne yn chili con carne, a hebddyn nhw dyw e'n ddim mwy na rhyw stiw sbeillyd. Erbyn hyn dwi wedi ychwanegu y ffa at y gymysgedd ac felly fe fydd cinio heddiw yn well.Tagiau Technorati: Bwyd | Gwleidyddiaeth | Arian.
 
