Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-03-02

Eira

Beth sy'n bod arnon ni? Dim ond iddi fwrw eira mae pawb â diddordeb yn y tywydd unwaith eto. Ar ôl inni gael ein cwcwnio'n glyd yn ein cartrefi walydd-insiwledig, gwydr-dwbwl, gwres-ganolog a medru anghofio am y tywydd am y rhan fwyaf o'r amser, yn sydyn mae un bluen eira yn ein gyrru'n wyllt. Wel, mae'n fy ngyrru i'n wyllt 'ta beth. Dwi'n credu ei fod rhywbeth i'w wneud â'r dymuniad sydd ynom i geisio purdeb gyda'r eira gwyn yn cynrychioli'r purdeb hwnnw. Roedd dydd Mercher y Lludw yn ddydd lle roedd dymuno purdeb, neu sancteiddrwydd, yn uchel iawn ar yr agenda ac fe wnaeth y tywydd ddarparu'r ysbrydoliaeth angenrheidiol inni.

Wedi'r storm eira

Rhagor o luniau o eira i bobol sydd erioed wedi gweld eira o'r blaen!

Tagiau Technorati: .