Diolch i Rhodri am roi gwybod taw colomennod y graig ac nid sguthanod sy'n fygythiad i ni yn Aberystwyth. Yn dilyn derbyn y wybodaeth honno dwi wedi gwneud ychydig o ymchwil ar y pwnc a darganfod bod Aberystwyth mewn cwmni da iawn o ran colomennod y graig. Maen nhw i'w cael o Misir Çarşisi yn Istanbul i Rynek Główny yn Kraków - o galon Pwyl babyddol i galon Twrci fwslemaidd - gan ddangos nad yw colomennod y graig yn gwahaniaethu ar sail crefydd o leia. Dyma'r adar sydd hefyd yn poblogi Sgwâr Trafalgar yn Llundain a De Dam yn Amsterdam. Dwi'n teimlo bellach nad cwyno ddylen i am y colomennod hyn ond eu derbyn a'u haffirmadu fel rhai sy'n dod ag ychydig bach o naws ryngwladol a chosmipolitanaidd i'n bywydau diflas a chul yn Aberystwyth. Diolch ichi golomennod y graig!
Tagiau Technorati: Adar.
Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.