Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-03-03

Dydd y Llyfr

Noson lansio 'Celtic culture: a historical encylopaedia'Digon tawel oedd Dydd y Llyfr i mi. Dim rhyw lawer o gyffro. Ond gyda'r nos fe es i lansiad gwaith rhyfeddol sydd newydd ei gyhoeddi yng Nghaliffornia gan dîm o ysgolheigion sy'n gweithion yn Aberystwyth o dan gyfarwyddyd JTK. Mae'r gwaith, Celtic culture: a historical encylopaedia, mewn 5 cyfrol ac yn cofnodi pob agwedd ar ddiwylliant y Celtiaid o'r cyfnodau cynnar hyd y cyfoes. Roedd hi'n noson dda - cadwyd at yr amser addawedig, ac fe gafwyd cerddoriaeth a chyfraniadau difyr gan y siaradwyr. Croesawyd pawb gan Lyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol, yna siaradodd cyfarwyddwyr y Ganolfan Geltaidd, yna golygydd y gwyddoniadur ei hun, JTK, ac yn olaf cafwyd gair gan gyfarwyddwr Cyngor Llyfrau Cymru - roedd y lansiad yn rhan o ddathliad Dydd y Llyfr. Ac ar ddechrau a diwedd y noson cafwyd cerddoriaeth gan y Fformoriad.

Y Fformoriaid yn canu yn y 'tywyllwch'


Lawrlwytho'r ffeil

Rhagor o luniau o'r noson lansio.

Tagiau Technorati: | | .