Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-03-13

Dim slglefrfyrddion yn Aberystwyth lwyd

'Dim sglefrfyrddio'I rai pobl mae'n rhaid cael haul a heulwen a chynesrwydd a phopeth arall hafaidd i wneud traeth yn lle deniadol. Ond mae yna rhywbeth deniadol iawn am draeth gwag a phawb yn cadw draw oherwydd y tywydd. Fel yna yn gywir yr oedd hi'n Aberystwyth brynhawn Sul. Roedd bron pawb wedi cadw draw ac fe ges i'r prom i fi fy hun i bob pwrpas, heblaw am un neu ddau arall, a'r colomennod a'r gwylanod wrth gwrs.

Un peth wnaeth dynnu fy sylw oedd arwydd DIM SGLEFRFYRDDION wrth bwll padlo'r plant bach ar y prom. Dwi'n siŵr bod angen yr arwydd o gofio pa mor anturus yw sglefrfyrddwyr. Ond yr hyn oedd yn fy rhyfeddu oedd y gair ei hun fe gododd fy nghalon unwaith eto fod geiriau o'r fath yn dal i gael eu creu yn Gymraeg. Gallen ni fod yn derbyn pob gair newydd o'r Saesneg heb boeni dim am eu haddasu, ond nid ydym wedi cyrraedd y sefyllfa honno eto. Ond wedi mi ddweud hynny rhaid imi gyfaddef taw un o fy hoff eiriau Cymraeg i yw AMBIWLANS, dwi'n cynhyrfu trwof i gyd pan dwi'n gweld y gair ar gerbyd, oherwydd fel SGLEFRFYRDDIO mae AMBIWLANS yn dweud fod y Gymraeg yn dal i fod yn fyw. Wrth gwrs mae 'na gysylltiad arall rhwng y ddau air i fi - petawn i'n ceisio sglefrfyrddio mae'n siŵr taw ambiwlans fuasai'r peth nesaf imi weiddi amdano!

Prom Abersytwyth

Lawrlwytho'r ffeil

Rhagor o luniau o'r arwydd DIM SGLEFRFYRDDION ger y pwll padlo ar y prom yn Aberystwyth.

Tagiau Technorati: | | .