Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-03-12

Adar

ColomenDwi'n gobeithio'n fawr iawn nad ydw i'n dechrau mynd yn obsesiynol gydag adar, ond rhaid cyfaddef nad 'mod i'n sylwi arnyn nhw fwy aml nag yr oeddwn i'n arfer ei wneud. Mae hynny'n arbennig o wir ar brynhawn dydd Sul pan fydda i'n cerdded y prom yn Aberystwyth. Heddiw roedd y prom yn arbennig o wag ac felly roeddwn i'n cael llonydd i fwynhau cwmni'r adar ar fy mhen fy hun. Cymysgedd o wylanod a cholomennod sydd 'na. Mae'r colomennod yn gyfeillgar ar y cyfan, ond mae'r hen wylanod 'na รข golwg filain yn eu llygaid. A phan nad ydyn nhw'n edrych yn filain mae'r gwylanod yn edrych yn drahaus. Golwg rhai sy'n gwybod beth yw eu lle nhw yn y byd 'ma sydd ar y colomennod - dyma ichi werin y prom. Nid oes unrhyw rwysg yn perthyn iddyn nhw. Mae'n rhyfedd fel mae sustem ddosbarth a pherthynas o bwer a gormes yn bodoli ym myd yr adar hefyd!

Rhagor o luniau'r colomennod ar y prom yn Aberystwyth.

Gwylan drahaus yn meddiannu'r prom yn Aberystwyth.

Lawrlwytho'r ffeil

Tagiau Technorati: | .