Dwi'n gwybod imi ddweud taw glanhau'r ffwrn oedd fy mwriad nesaf. Ond gyda lle yn y gegin unwaith eto dwi'n ofni fy mod wedi ymroi i goginio a threulio noson gyfan yn y gegin yn gwrando ar Radio Cymru, yn yfed te ac yn coginio. Mae'r lle wedi newid yn fawr wrth dynnu'r hen bosteri lawr o'r wal a chodi map o Ewrop a brynais yn Lidl wythnosau yn ôl. Dyna un peth dwi'n ei fwynhau am siopa yn Lidl yw'r ffaith nad ydych chi byth yn siŵr pa fargeinion rhyfedd y byddwch chi'n eu gweld yno. Sylwais fod baneri draig goch wrth y cannoedd yno tua Gŵyl Dewi! Gan fod y map newydd ar y wal roeddwn i'n medru yfed fy nhe ac ar yr un pryd rhyfeddu at pa mor agos yw Minsk (prifddinas Belarus) i Vilnus (prifddinas Lithwania) a phethau eraill diddorol.
Ond y peth mawr oedd coginio. Wrth lanhau'r cypyrddau fe ddes i ar draws becyn o bys melynion a phan welais i'r cwdyn fe gefais fy meddiannu gyda chwant i gogino pease pudding un o seigiau traddodiadol Lloegr, ac sy'n dal i fod yn boblogaidd iawn yng ngogledd-ddwyrain y wlad. Ond dwi'n ofni taw fersiwn di-gig wnes i wneud heno gan ddilyn y rysait yn llyfr Rose Elliot, Rose Elliot's complete vegetarian cookbook. Llyfr Rose Elliot oedd y llyfr ryseitiau cyntaf imi ei brynu - mae wedi bod gyda fi am ugain ers 1986. Yr wyf fi wedi mynd â'r llyfr gyda fi i bob man gan ddilyn cyfarwyddiadau Rose Elliot yn ofalus, yn gywir fel yr oedd fy mam wedi dilyn cyfarwyddyd Marguerite Patten slawer dydd.
Yn ogystal â'r pease pudding fe wnes i wneud crwmbwl banana gan ddefnyddio blawd cyflawn. Dwi'n edrych ymlaen i gael y ddau i swper nos yfory. Roedd digonedd o bethau eraill gyda fi i'w gwneud, ond roedd y noson yn y gegin yn bleser pur. Trueni mawr nad oes Rayburn neu Aga yn y fflat imi fedru cwrlo lan yn ei herbyn fel roeddwn i'n gwneud ar noson oer pan yn grwt ym Mynachlog-ddu flynyddoedd yn ôl bellach.
Tagiau Technorati: Glanhau | Coginio | Bwyd | Atgofion.
Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.