Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-02-26

Adar yn ymddwyn yn òd

Gwylan, AberystwythNid yw ffliw yr ednod bellach ond drwch sianel i ffwrdd ac mae'n newyddiadurwyr cyfrifiol yn mynnu ein bod yn mynd i banig mawr nawr. Maen nhw am inni fynd i banig nawr er mwyn inni fynd i banig mwy pan ddaw ffliw yr ednod i Ynys Prydain. Dwi'n ofni fy mod i wedi dechrau sylwi yn fwy manwl ar ymddygiad rhai o'n hadar lleol yn Aberystwyth. Dwi'n ofni nad ydyw'r rhagolygon yn dda. Ydych chi'n sylwi ar yr olwg fileinig yn llygaid yr wylan yn y llun? Rhaid imi adrod fy mod wedi gweld gyda fy llygaid fy hun dwy sguthan yn cynllwynio i ddial ar ddynolryw am genedlaethau o erlid; fe welwch chi hyn'na yn fy fideo cudd o'r digwyddiad isod. Bron yr un pryd yn gywir roedd drudwns Aberystwyth yn cynnal cynhadledd arbennig o dan y pier er mwyn trafod sut i gael yr hyn yr oedden nhw moyn allan o'r holl sefyllfa. Fe sylwch yn y dystiolaeth fideo fod sŵn y trafod yn fyddarol, ond yn sinstr roedden nhw'n defnyddio eu cod dirgel i gyfathrebu ac felly nid oeddwn yn medru deall gair, ond y funud mae dyn yn troi ei gefn maen nhw'n mynd 'nôl i siarad Cymraeg fel adar normal!

Sguthanod
Fe welais y sguthanod yma yn hongian o gwmpas un o'r cysgofeydd ar y prom yn Aberystwyth. Roeddwn i'n meddwl fod hynny'n rhyfedd, ond mae'r fideo yn dangos pa mor rhyfedd oedd eu hymddygiad.


Lawrlwytho'r ffeil

Drudwns
Dyma'r drudwns yn cyfarfod o dan y pier. Mae gyda nhw rhywbeth i'w guddio mae'n amwlg. Beth yw e? Wel, dwi ddim cweit yn siŵr eto. Sylwch ar y sŵn!


Lawrlwytho'r ffeil

Tagiau Technorati: .