Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-03-12

Sadwrn o lanhau llwyddiannus... a ffwrn lân i ddod

Y geginDwi'n gwybod ei fod yn beth digon pitw i ogoneddu ynddo, ond o'r diwedd dwi wedi llwyddo i roi rhyw fath o drefn ar y gegin. Am fisoedd roeddwn i wedi bod yn esgeuluso'r lle. Y peth mwyaf imi lwyddo i'w wneud oedd cael gwared o'r holl boteli gwin o lawr y gegin a hynny trwy gymalu'r rac win a brynais oesoedd yn ôl yn siop Siarlys Tsiep. Dwi'n gwybod 'mod i wedi colli peth gofod ar y top, ond mae'r gofod a enillwyd ar lawr y gegin wedi'i thrawsnewid yn llwyr. Mae'n gegin fach 'ta beth, ond doedd dim lle i droi yno gyda'r llawr wedi diflannu - nawr mae 'na le i droi, a byddaf yn defnyddio'r cyfle i droi pob tro y bydd hynny'n codi.

Y geginNid yw popeth wedi gorffen ond dwi'n dod yn nes ati. Mae'n rhaid tynnu'r llestri i gyd o'r cypyrddau a'u golchi, ond dwi wedi gwneud hynny gyda'r tuniau a'r bwyd yn y cypyrddau ac wedi taflu hen bethau. Mae'n rhyfedd sut mae rhai pethau yn ffeindio'u ffordd i gefn cwpwrdd am flynyddoedd er eich bod yn glahnau'n drylwyr bob blwyddyn. Felly mae'r llestri ar ôl i'w gwneud... a'r ffwrn. Fy nhuedd dros y blynyddoedd oedd byw mewn gwadiad parthed ffyrnau. Ond nid yw'r ffwrn yn fy llenwi ag ofn bellach gan fy mod wedi darganfod yr 'ateb' i ffyrnau, sef Oven Pride. Mae'n effeithiol, ond mae'n gryf. Ac o'r herwydd o ddarllen y daflen ddioglewch gallech dybio ei bod yn fwy peryglus defnyddio Oven Pride na phlymio i grombil adweithydd niwlcear a hwnnw wedi'i gynnau! Eto i gyd, i fod yn ddiogel, rhaid cydnabod nad rhwybeth i'w wneud pan fo pobol o gwmpas yw defnyddio Oven Pride. Ond gan fy mod i'n credu fod glanhau yn bleser i'w fwynhau'n breifat nid drwg o beth hynny. Ac wrth gwrs o lanhau yn breifat fe ellir ailfwynhau'r pleser wrth arddangos canlyniadau'r glanhau i gynulleidfa werthfawrogol; a does yr un gynulleidfa yn fwy gwerthfawrogol na'r un sy'n edrych y tu fewn i'ch ffwrn a honno'n lân. 'Mae rhywun sy'n feistr ar ei ffwrn yn feistr ar fywyd'.

Tagiau Technorati: .