Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-02-27

Yn dal i hel atgofion

Yn Weston Vaults - NW, IJ a SJHeno dwi wedi bod yn edrych ar fwy o 'hen' ffotograffau ac yn eu digido. Dwi ddim wedi mynd yn ôl yn rhyw bell iawn, dim ond i 2002 ac i'r haf. Yn Eisteddfod Tyddewi yr haf hwnnw fe gafodd Côr Llefaru'r Cŵps fuddugoliaeth nodedig. Roedden ni'n llefaru darn allan o'r Mabinogi fel y'i diweddarwyd gan Dafydd a Rhiannon Ifans - y darn o'r ail gainc lle mae'r rhai sydd wedi goroesi'r rhyfel yn Iwerddon yn mynd i wledda a mwynhau yng Ngwales gyda phen Brân yn gwmni iddynt. Fe gafwyd buddugoliaeth er gwaetha'r ffaith i DML anghofio ei eiriau ar y llwyfan a gweiddi "O shit!" o ganlyniad i hynny yn ddigon uchel i bob un oedd yn llefaru glywed. Diolch byth nad oedd clust y beirniad yn ddgion effro na microffonau'r eisteddfod yn ddigon nerthol i gofi popeth!

Yr un haf fe fues i yn rhoi papur i un o'r cyfarfodydd a oedd yn rhan o gynhadledd IFLA yn Glasgow a chael cyfle i edrych o gwmpas y ddinas wedyn.

Rhagor o luniau o'r dathlu yn dilyn buddugoliaeth Tyddewi.

Lluniau o Glasgow.

Tagiau Technorati: | .