Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-02-28

Dydd Mawrth Ynyd

Pwdin swydd efrogMae'n ddydd Mawrth Ynyd heddiw, yfory y bydd hi'n Ddydd Mercher y Lludw a dechrau'r Garawys. Gan fy mod yn bwriadu cadw'r Garawys eleni eto fe wnes i benderfynu gadw'r Ynyd hefyd a hynny trwy wneud a bwyta'r pancos traddodiadol yn hytrach na mynd at offeiriad i gyffesu fy mhechod a derbyn gollyngdod. Fe fydd digon o gyfleoedd i wneud hynny yn ystod tymor y Garawys a does dim eisiau mynd dros ben llestri. Oherwydd nad gweithred unigolyddol yw coginio a bwyta pancos ac mae'n gofyn am gwmni i rannu ac i drafod ac i gyd-fwynhau pleserau bychain bywyd, fe fues i'n ffodus i gael DML ac RO i ymuno gyda mi yn fy ngwledd ynyd. Ond erbyn gorffen gwenud y pancos roedd gen i ddigon o gytew ar ôl i wneud pwdin swydd Efrog, ac fe ges i ddarn o hwnnw gyda glybwr llysieuol fel atodiad i fy ynyd.

Mae'r enw Dydd Mawrth Ynyd yn un hen, mae'r esiampl gynharaf yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru yn dyddio o'r 12-13 g. ac mae'r gair yn fenthyciad o'r Lladin initium sy'n golygu 'dechreuad'. Felly dyma'r cyfnod o baratoi ar gyfer dechrau'r Garawys trwy gyffes a thrwy ddathlu wrth ddefnyddio'r bwyd nad oedd bwriad ei fwyta yn ystod y tymor hwnnw. Oherwydd hynny daeth y gair ynyd i olygu 'gloddest' hefyd. Dyna sy'n esbonio'r Mardi Gras sy'n cael ei gadw mewn gwledydd ar draws y byd, o New Orleans i Sydney.

Yfory, ar ôl diwrnod o fyw yn wyllt bydd yn rhaid sobri a dechrau'r daith hyd at ddydd Gwener y Grolith a'r Pasg.

Rhagor o luniau o fy mhwdin ynyd.

Tagiau Technorati: | .