Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-02-16

Y Rhyfel hir

Wedi'r Rhyfel oer a'r Rhyfel yn erbyn terfysgaeth, mae'r Taleithiau Unedig yn awr yn ymladd y Rhyfel hir. Dyna sut mae'r llywodraeth wedi ail-frandio y cam nesaf yn ymgyrch ymerodraethol y Taleithiau Unedig drwy'r byd. Y blaenoriaethau fydd:
  • Trechu rhwydweithiau terfysgol
  • Amddiffyn y famwlad mewn dwyster
  • Ffurfio dewisiadau gwladwriaethau sydd ar groesffyrdd strategol
  • Atal gwladwriaethau gelyniaethus a chyrff anwladwriaethol rhag caffael neu ddefyddio arfau dinistriol
O'r blaenoriaethau rheiny efallai y mwyaf bygythiol yw'r trydydd, gan ei fod yn mynnu'r hawl i'r Taleithiau Unedig i ymyrryd mewn unrhyw wladwriaeth y maen nhw'n ei hystyried fel un ar groesffordd strategol. Beth mae'n profi hefyd yw fod y peiriant rhyfel/diwydiannol wedi llwyddo i gadw ei afael ar bolisi. Yn dilyn diwedd y Rhyfel oer fe allen ni fod wedi gobeithio gweld trawsnewid diwydiant o gynhyrchu i gefnogi rhyfel i gynhyrch i hybu heddwch, yn hytrach mae popeth wedi aros yr un fath.

Tagiau Technorati: .