Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-02-15

Y Caban a chaffis Aberystwyth

CGw a DJP yn y Caban, AberystwythMae'r amser yn hedfan heb roi cyfle imi gofio am rai pethau da iawn sydd wedi digwydd. Union wythnos yn ôl fe ges i brynhawn hyfryd yn y Caban yng nghwmni CGw a DJP. Roedd CGw wedi dod lan i Aberystwyth ar gyfer cwrs oedd yn gorffen ddiwedd y prynhawn ac felly fe wnaeth ffonio er mwyn inni gyfarod am sgwrs a choffi. A pha le gwell i gwrdd na'r Caban. Daeth DJP i ymuno â ni ychydig yn ddiweddarach a buodd y tri ohonon ni'n siard fan 'ny hyd nes bod amser cau'r Caban yn dod. Mae CGw yn un o'r bobol hynny ych chi'n medru cychwyn sgwrs gyda hi ar un pwnc a pharhau i sgwrsio o un pwnc i'r llall nes bod yr amser wedi diflannu. Mae ganddi cymaint o ddiddordebau gwahanol. Mae'r un peth yn wir am lawer o bobol dwi'n eu hadnabod ac mae'n braf cael sgwrswyr da fel cyfeillion a chydnabod.

Cwpanau, Y Caban, Heol y Wig, AberystwythMae pethau yn newid yn y Caban hefyd. Roeddwn i'n arfer bod yn ffyddlon iawn i'r lle, ond mae 'na lefydd eraill sy'n denu bellach. Un o anfanteision mawr y Caban yw'r ffaith bod pobol yn dal i smygu yno. Mae'n wir ei bod nhw wedi gwahardd smygu dros ginio, ond mae fel petai hynny yn gwneud pobol yn fwy parod i smygu gweddill yr amser. Anfantais arall yw'r diffyg t&375; bach - fel dyn dwi'n arbennig o ymwybodol o fy angen yn yr adran honno o'm bywyd. Mae llefydd eraill yn ennill ar y ddau gownt. Rhaid imi gyfaddef fy mod yn hoff iawn o Ystafell De Cambria (fel y busech chi'n disgwyl), a bore ddoe fe fues i yn Mecca (dim ysgmygu a thoiledau) a bwyd hyfryd. Fel mae'n digwydd dwi ddim yn mynd i Mecca cyn amled â hynny gan bod y lle'n llawn. Yna dwi'n reit hoff bellach o Fresh Ground Cafê, ac wrth gwrs mae'r Orendy wastad ar gael. Ond yn y Caban yr ych chi'n cwrdd â phobol, a dyna sy'n denu rhywun i'r lle ar hyn o bryd ac sy'n si&373;r o wneud dros y blynyddoedd i ddod.

Rhagor o luniau o'r Caban y diwrnod hwnnw.

Tagiau Technorati: | | .