Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-02-16

Gogoneddu mewn gweithredoedd terfysgol eto


Mae'n rhaid bod y Prif Weindiog Rhodri Morgan AC yn poeni unwaith eto'r bore 'ma ar ôl i Dŷ'r Cyffredin bleidleisio am yr eildro i wneud 'gogoneddu mewn gweithredoedd terfysgol' yn drosedd. Dwi'n gwybod ei bod hi'n annhebygol bod Rhodri Morgan wedi arwain dathlu Gwrthryfel Glyn Dŵr gyda'r bwriad o annog gweithredoedd tebyg yng Nghymru heddiw, ond roedd rhagor na Rhodri Morgan yn dathlu Glyn Dŵr a llawer ohonynt â syniadau llawer mwy radicalaidd ynglŷn â dyfodol Cymru. Mae gwneud trosedd o'r hyn mae unigolyn yn ei feddwl ac yn ei ddweud, yn hytrach na beth mae yn ei wneud, yn beth peryglus iawn o ran rhyddid - yn arbennig felly yng nghyd-destun 'gweithredoedd terfysgol'. Mae'n iawn atal pobol sydd mewn gwirionedd yn annog lladd pobol eraill, ond o brofiad y gorffennol bydd yr awdurdodau yn cael eu temtio i ddefnyddio deddfwriaeth o'r fath i ddelio hefd gyda'r rhai sy'n achosi trafferth iddyn nhw. Nid er mwyn atal Walter Wolfgang rhag heclo yng nghynhadledd flynyddol y blaid Lafur y pasiwyd Deddf Terfysgaeth 2000, eto dyna'r union ddeddf a ddefnyddiwyd i gadw'r hen ddyn yn gaeth rhag ymosod yn eiriol ar Jack Straw!

Os daw'r ddeddf i rym mae'n debyg y bydd yn rhaid tynnu cerflun Glyn Dŵr o Neuadd y Ddinas, Caerdydd ac o'r sgwâr yng Nghorwen, dymchwel Eglwys S. Pedr mewn Cadwynau, Pennal, ail-enwi Sgwâr Owain Glyn Dŵr yn Aberystwyth, cau Canolfan Owain Glyn Dŵr ym Machynlleth, a chael gwared o bob peth arall sy'n gysylltiedig a'i enw mae'n debyg os oes unrhyw awgrym o gwbl fod rywun yn gogneddu yn ei weithredoedd terfysgol ac hyd yn oed yn meddwl bod ymladd dros ryddid yn syniad i'w efelychu. A phwy na allai gytuno â'r llywodraeth yn hynny o beth o gofio ei fod wedi llosgi Caerdydd i'r llawr; anodd meddwl am weithred llawer mwy terfysgol na hynny!

Tagiau Technorati: | .