Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-02-15

Ta ta Mike Ruddock

Wel, wel, mae Mike Ruddock wedi ymddiswyddo fel hyfforddwr tîm rygbi Cymru a hynny reit ar ganol cyfres gêmau y chwe gwlad. Maen nhw'n dweud taw un o'r rhesymau dros hyn yw fod y chwaraewyr yn genfigennus o'r sylw roedd Ruddock wedi'i gael yn dilyn llwyddiant y tîm y tymor diwethaf. Maen nhw'n dweud taw un o'r pethau oedd yn eu poeni fwyaf oedd fod Mike Ruddock wedi derbyn OBE, Order of the Brutish Empire, am ei waith a'u bod nhw wedi derbyn 'dim'. Dyna drist!

Tagiau Technorati: .