Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-02-15

Ydy f'anadl i'n gwynto o 'Italian style seasoning'?

Ragu 2006-02-14Beth ych chi'n ei wneud pan fo rhywbeth yn mynd o'i le wrth goginio? Taflu'r cyfan a dechrau eto neu dderbyn canlyniadau'r amgymeriad neu'r camganfyddiad a bwyta beth sydd o'ch blaen. Dyna'r cyfyng gyngor moesol y wynebwn neithiwr. Wrthi'n coginio rhyw ragu bach syml i gael gyda pasta yr oeddwn i pan benderfynais ychwanegu ychydig o 'Italian style seasoning' i'r sospan. Wrth gydio yn y blwch reoddwn i'n cael fy nhynnu at y ffaith nad oedd rhaid imi dynnu'r caead ond fod 'na ffordd o ddefnyddio'r amrywiol dyllau yn y caead i roi'r 'Italian style seasoning' a dyma chwarae'n bellach gyda'r caead er mwyn agor y tyllau, ond heb roi'r caead yn ôl yn saff ar y blwch. Y canlyniad oedd i hanner cynnwys y blwch fynd i mewn i'r sospan ar ben y cig. Ydych chi erioed wedi ceisio tynnu pêr-lysieuyn allan o rywbeth pan fo hwnnw wedi'i falu'n fân? Fe geisiais i wneud fy ngorau, ond nid oedd hi'n hawdd. Felly fe benderfynais fynd yn y blaen i orffen coginio'r bwyd ac esgus nad oedd dim byd ofnadwy iawn yn bod arno. Nid oedd cynddrwg â phetawn i wedi gollwng blwch o halen i mewn - dwi wedi gwneud hynny yn y gorffennol ac wedi gorfod helpu'r sefyllfa trwy ychwanegu mwy o hylif, ond methu yn y diwedd a gorfod taflu'r cyfan. Dwi wedi arbrofi gyda ryseitiau aflwyddiannus ac wedi bwytau'r cynnyrch er mor ofnadwy. Y tro diwethaf i hyn ddigwydd oedd yn yr eisteddfod llynedd pan wnes i salad awbergeniaid o Forocco a oedd yn arbennig lysnafeddog a halfa yn y dull Groegaidd a oedd hefyd yn aflwyddiant - ond fe fytais i a phawb arall ddigon i fod yn barchus a pheidio â theimlo'n euog oherwydd ein bod yn gwastraffu bwycd! Oherwydd fy mod wedi cael cymaint o 'Italian style seasoning' o'm mewn erbyn hyn dwi'n teimlo y gallwn ennill yr hawl i fod yn ddinesydd Eidalaidd heb lenwi unrhyw ffurflen ac felly chwarae rygbi (os nad pêl-droed) dros yr Azzurri dim ond ar sail hynny!

Tagiau Technorati: | .