Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-02-14

Ymlaen â'r gweithwyr!

Eglwys Garmon Sant, Saint Harmon, PowysHeddiw fe fues i yn Rhaeadr Gwy ar gyfer cyfarfod o Fforwm Cymru yr undeb llafur dwi'n perthyn iddo - Prospect. Pwyllgor Cymru yr undeb yw'r fforwm gan fod yr undeb yn un Prydeinig, a dwi wedi bod yn gadeirydd y pwyllgor hwn ers iddo gael ei sefydlu rhyw bum mlynedd yn ôl. Ond heddiw yr oeddwn yn cadeirio'r cyfarfod am y tro olaf. Ar y ffordd adref o'r cyfarfod fe aethon ni drwy bentref Saint Harmon ac aros am ychydig ger yr eglwys. Fan'ny cafwyd cyfle i gofio am gysylltiad byr y plwyf â'r Parchedig Francis Kilvert, y dyddiadurwr enwog. Ond er bod yr adeilad ei hun yn un cymharol 'newydd' mae'r safle yn un hynafol iawn, yn dyddio yn ôl i'r chweched ganrif. Tystia'r fynwent grwn wedi'i chodi pa mor hen yw'r safle - yn nodweddiadol o'r safleoedd eglwysig cynharaf oll yng Nghymru.

Rhagor o luniau o Saint Harmon.

Tagiau Technorati: .