Pam felly fy mod i'n dadlau o blaid yr hawl i ymosod a chythruddo pawb a phopeth? Wel, dwi'n credu ei bod hi'n rhaid imi fynd yn ôl i Fynachlog-ddu unwaith eto i ateb y cwestiwn hwn eto, at fy magwraeth, ac at y traddodiadau teuluol y derbyniais wrth draed fy mam. Cefais fy magu mewn teulu o Fedyddwyr, mewn cymuned lle'r oedd bron pawb yn Fedyddwyr. Ac roedd pawb yn ymwybodol iawn o'u hanes ac o ble'r oedd y traddodiad y Bedyddwyr yn tarddu. Gallai Bedyddwyr Mynachlog-ddu olrhain eu dechreuadau yn ôl i 1668 pan sefydlwyd yr eglwys Fedyddiedig gyntaf yn yr ardal; daeth honno yn ddiweddarach i'w hadnabod fel Eglwys Rhydwilym. Yn y cyfnod hwnnw pan sefydlwyd yr eglwys yn dilyn adfer y frenhiniaeth a statws gwladol yr eglwys Anglicanaidd cafodd Bedyddwyr (ac anghydffurfwyr eraill) eu herlid yn gyson gan yr awdurdodau. Yr oedd hynny oherwydd eu bod yn credu yn wahanol i grefydd swyddogol y wladwriaeth yr oedd disgwyl i bawb gydymffurfio â hi. Dwi ddim yn gwybod a oes unrhyw wirionedd yn yr hanes ond roedd 'na draddodiad fod cyn-dadau a chyn-famau imi ymhlith y rhai oedd wedi dioddef yr erledigaeth am ddewis credu yn wahanol ac am fentro rhoi mynegiant i'r argyhoeddiadau hynny. Gwnaeth hyn argraff fawr arna i pan yn blentyn, fel yr oedd wedi'i wneud ar bawb yn yr ardal - yr oedd fy mam wedi sicrhau ei bod yn dweud yr hanes wrtha i yn weddol gynnar. Yn y capel byddai'r hanesion hyn yn cael eu hatgyffnerthu trwy bob math o ddathliadau a digwyddiadau.
Mae'n gwestiwn ychydig yn debyg i'r iâr a'r wy - ai'r profiadau o sefyll dros yr hawl i gredu yn wahanol a roes fod i annibyniaeth barn Preseli ynte ai'r annibyniaeth barn a olygodd bod pobol Preseli wedi mynnu sefyll dros yr hawl i gredu yn wahanol? Efallai taw cyfuniad o'r ddau. Mae'n ddiddorol nodi taw pan roedd erledigaeth ar ei waethaf y penderfynwyd sefydlu Eglwys Rhydwilym yn 1668 a hynny ar adeg pan roedd llawer o grefyddwyr eraill yn danto gyda'r sefyllfa ac yn dewis ffoi i ogledd America i chwilio am ryddid - fel gwnaeth y Crynwyr a llawer o Fedyddwyr (gan gynnwys rhai o Rydwilym yn 1711 yn ofni'r hyn oedd yn digwydd ar y pryd a sefydlodd eglwys yn Nhredyffrin, Pennsylvania) ac Annibynnwyr. Erbyn heddiw gyda dirwyiad yn y diddordeb mewn crefydd a gwleidyddiaeth, a'r newid mawr sy wedi bod yn natur poblogaeth yr ardal, mae'n siŵr nad yw'r ymdeimlad yma o'r hawl i ryddid cyn gryfed. Ond mae wedi dylanwadu ar y fordd dwi'n gweld pethau, hyd yn oed fel eglwyswr bellach! Os ydw i am ryddid i feddwl a dweud beth dwi'n ei gredu yna pwy ydw i i atal hynny i rywun arall?
Tagiau Technorati: Crefydd | Rhyddid | Mynachlog-ddu | Rhydwilym.