Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-02-11

Blog fideo

Mae Chris Cope yn fy ysbrydoli gyda'i flogio llafar a fideo. Heddiw'r bore fe wnes i fynd i'w flog a gweld fideo o Minnesota o dan eira. Roedd yn hyfryd i'w weld. Felly fe wnes i benderfynu fy mod i mynd i wneud blog fideo o ryw fath. Y bore 'ma fe wnes i godi'n gynnar i' barhau gyda glanhau'r gwanwyn dwi wedi bod yn gwneud ers rhyw wythnos bellach. Ond fe es i gael cinio gyda RO yn Ystafell De Cambria a dyna lle gwnes i fy fideo i. Dyw e ddim mor gyffrous รข Minnestoa, ond mae'r un mor ddilys fel testun blog. Yr hyn sy'n ddiddorol yn y fideo yw eich bod yn medru clywed Gari Prysor ar y piano; fel mae'n gwneud pob awr ginio. Profiad diddorol yw cael piano byw gyda'ch cinio. Dwi'n hoff o'r lle ac mae'r bwyd yn dda, ac mae'n arbennig o dda ddydd Sul pan maen nhw'n cael cinio dydd Sul traddodiadol. Ond yr un sy'n gwneud y peth yn sebesial yw eu bod nhw'n gweinio tato wedi'u potsio, neu datw stwmp. Hyfryd!

Gwyliwch fy mlog fideo cyntaf!




Tagiau Technorati: | .