Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-02-10

Ar goll mewn amser

Dyddiadur y Lolfa 2006Mae 'na stori ddifyr ar wefan y BBC yn Gymraeg ac yn Saesneg am ddyddiadur 2006 y Lolfa, yr union ddyddiadur dwi'n ei ddefnyddio. Maen nhw wedi gwneud camgymeriad ynglŷn â rhai dyddiadau - yn arbennig felly gwyliau Cristnogol sy'n dechrau'r Garawys, sef Dydd Mawrth Ynyd a Dydd Mercher y Lludw. Yn ôl dyddiadur y Lolfa eleni roedden nhw'n digwydd yr wythnos hon, ond mewn gwirionedd bydd Dydd Mercher y Lludw eleni yn syrthio ar 1 Mawrth a Dydd Mawrth Ynyd y diwrnod cynt ddiwedd Chwefror. Roedd 'na un eglwys yng nghwm Tawe wedi dilyn dyddiadur y Lolfa i'r llythyren a chynnal Dydd Mawrth Ynyd gyda chrempog a'r holl drimins ddydd Mawrth diwethaf! Roeddwn i wedi sylwi ar y dyddiad anghywir ond y cyfan a wnes i oedd roedd llinell drwy'r peth a gadael hi fan'ny. Petawn i wedi trefnu gorymdaith Mardi Gras trwy ganol Aberystwyth i nodi Dydd Mawrth Ynyd a hynny wedi costio ffortiown imi tybed a allwn i fynd â'r cyhoeddwyr i gyfraith i adennill ychydig o fy hunan barch a fy arian?

Wrth gwrs nid y Lolfa yw'r cyntaf i gael y dyddiau yn anghywir. Roedd fy mam yn arfer adrodd hanes am gwpwl ym Mynachlog-ddu slawer dydd a wnaeth gamgymeriad am y dyddiadu. Mewn oes lle'r oedd crefydd yn fwy o ddylanwad roedd y Sul wedi'i neilltuo ar gyfer mynd i'r cwrdd ond fe wnaeth y ddau yma gamgymeriad ac anghofio ei bod hi'n Sul a dechrau gweithio o gwmpas y tyddyn yn gwneud y peth hyn a'r peth arall. Cyn bo hir maen nhw'n dechrau sylwi ar fwy o bobl na'r arfer yn cerdded heibio a yna'n sydyn yn sylweddoli eu bod yn gwisgo dillad ar gyfer y cwrdd ac yn sylweddoli eu camgymeriad. Dwi'n cofio mam hyd heddiw yn dweud taw ymateb cyntaf y ddau oedd syrthio ar eu glinau ar ganol y clos a gweddïo i ofyn am drugaredd am wneud camgymeriad a gadael phopeth lle'r oedd e a mynd yn eu dillad gwaith am y tŷ cwrdd. Dwi ddim yn gwybod a yw'r stori'n wir, ond roedd fy mam yn ei hadrodd gydag argyhoeddiad, a dwi'n diolch i'r Lolfa am fy ysgogi i gofio amdani. Yn ôl fy mam wnaeth neb ym Mynachlog-ddu yr un camgymeriad byth wedyn, gobeithio y bydd hyn yn wir am bawb arall hefyd!

Tagiau Technorati: | | .