Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-02-13

Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi'i lapio

Dwi'n gwybod ei fod yn dechrau ymddangos fel obsesiwn ond dwi'n cael fy nhynnu yn ôl ac yn ôl i'r sgaffaldau a'r webin oren sydd ar y Llyfrgell Genedlaethol ar hyn o bryd. Mae'r adeilad wedi'i drawsffurfio a dwi'n hoffi meddwl amdano fel rhyw amrywiad ar waith gan Christo a Jeanne-Claude, yn arbennig felly eu Reichstag wedi'i lapio. Dwi'n gwybod nad yw holl gamerâu teledu y byd yno yn edrych ar y peth, ond mae'n effeithiol iawn - rhyw fath o Christo ar gyfer y dyn tlawd efallai.

Pwy sy'n medru dweud y gwahaniaeth?

Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi'i lapio
Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi'i lapio.

Reichstag wedi'i lapio.

Rhagor o luniau o'r Llyfrgell Genedlaethol wedi'i lapio.

Tagiau Technorati: | | .