Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-02-13

Beth yw fy enw i?

Beth sydd mewn enw? Dywedodd cyfaill wrtha i fod llawer gormod o ffws yn cael ei wneud y dyddiau yma ynglŷn ag enwi plant, slawer dydd roedd y peth yn cael ei wneud yn llawer cynt a di-lol. Efallai bod hynny'n wir, ond mae 'na ofn erbyn hyn y gall rhoi'r enw anghywir i'ch plentyn achosi diflastod seicolegol iddo a all ei droi yn grupul emosiynol am weddill ei fywyd. Des ar draws gwybodaeth ar sut i beidio ag enwi plant ar wefan y BBC. Ac os wnewch chi chwilio am restrau o enwau posib i'ch plant fe gewch filoedd ar filoedd o gynigion gan breswylwyr y rhyngrwyd. Ac wrth gwrs mae 'na lyfrau yn cynnig enwau Cymraeg ichi - Meic Stephens, Welsh names for children: the complete guide; Heini Gruffudd, Enwau Cymraeg i blant; D Geraint Lewis, Welsh names.

Dwi'n medru cydymdeimlo â'r safbwynt sy'n gofyn am ychydig o ofal wrth ddewis enw. Oherwydd dwi'n byw o ddydd i ddydd gydag enw y gwnes i ddewis i fy hunan (nid Dogfael) ac nid yr enw y cefais gan fy rhieni. Mae'r enw ar fy nhystysgrif geni yn wahanol i'r enw dwei'n ei ddefnyddio'n feunyddiol. Dyw hyn'na ddim wedi achos problemau mawr imi gan ystyried imi ddefnyddio yr enw a ddewisais am dros 30 mlynedd bellach! Ond nawr ac yn y man dwi'n teimlo'r awydd i wneud fy newis enw yn 'swyddogol', i gael darn o bapur y gallaf ei ddangos i'r byd.

Rhywbryd yr wythnos ddiwethaf neu'r wythnos cyn'ny dyma benderfynu gwneud a dechrau darllen beth oedd rhai gwneud. Ac yn raddol dechreuodd byd newydd agor o'm blaen. Gallwn ddewis unrhyw enw yr oeddwn i am wneud, heblaw am enw a fuasai'n rhy anllad neu anweddus. Wedi darllen hyn'na doedd dim tawelu ar fy nychymyg. Gallwn fyw gyda'r enw dwi wedi'i ddewis, ond buasai'n llawer mwy cyffrous i gael enw arall yn gyfangwbl. Enw a fuasai'n dweud yn well pwy ydw i. Wedyn fe ddechreuais feddwl am yr holl ddewisiadau. Yn y diwedd roedd gen i ddwsinau o enwau, ac wrth gwrs fe allwn dreulio chwe mis o dan un enw cyn mynd ymlaen i'r llall, oherwydd gallwch newid eich enw cymaint o weithiau ag y mynnoch dim ond i hyn beidio bod er mwyn twyllo neu reswm anghyfreithlon arall. "I've always wanted an 'ap' ", mynte fi wrth fy hunan ac mae'n gwbl bosib imi ddefnddio enw fel Lawnsalot ap Dafydd, neu Ddogfael ap Dafydd, neu Lywelyn ab Owain, &c.

Yn y diwedd fe ddes i'r casgliad y buasai'n well syniad aros gyda'r enw a ddewisais i fi fy hun yn 1975 yn fuan wedi darllen Waldo Williams am y tro cyntaf a dechrau deall ychydig o beth roedd e'n ceisio ei ddweud. Ond i unrhyw un sy'n enwi plant efallai y buasai'n syniad da peidio â gadael iddynt ddarllen unrhyw beth gan Waldo nes bod ychydig bach o synnwyr yn eu pennau neu fe allai'r holl drafferth ac ymdrech o ddewis enwau iddynt fod yn drafferth ddi-fudd yn y pendraw.

Tagiau Technorati: .