Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-02-12

Noson yn y theatr

Un o fy hoff eitemau yn y cylchgrawn dychanol ofnadwy o Seisnig hwnnw, Private eye, yw'r cartŵn wythnosol Scenes you seldom see gan Barry Fantoni. Fel mae'r enw yn awgrymu pethau annisgwyl sy'n mynd â bryd Mr Fantoni, fel yr wythnos hon lle mae dau wrthi'n adeiladu celficyn o becyn ac yn sylwi "No missing... the instructions were easy to understand... and putting it together took no time at all" ac yn y blaen. Dwi'n teimlo fel 'scene you seldom see' fy hunan gan fy mod wedi cael gwahoddiad i fynd i'r theatr a finnau yn derbyn y gwahoddiad hwnnw. Fe wnes i dderbyn ar sail neges e-bost a aeth o gwmpas yn dweud am y perfformiad nos Sadwrn gan bod honno'n awgrymu i mi y buaswn yn mwynhau mas draw - cynhyrchiad tairieithog yn ceisio deall hunaniaeth, iaith, cenedlaetholdeb, perthyn, &c. Ond rhyw fodd neu'i gilydd wnaeth y peth ddim cweit gweithio.

Yr oedd y ddrama Bwrw hen wragedd a ffyn yn gynhyrchiad ar y cyd rhwng Llwyfan Gogledd Cymru a Theatre in the Mill, Bradford ac yn ceisio mynd i'r afael â'r hyn sy'n poeni pobl ifainc o'r Gymru Gymraeg a phobl ifainc o dras Asiaidd ym Mradford. Dyma beth oedd gan y datganiad i'r wasg i'w ddweud
'Raining Old Women and Sticks' explores racial and linguistic identity and question notions of ‘self’ in an ever changing Britain. The production brings together different communities, by fusing Welsh myth and history with Asian stories and the landscapes of Snowdonia with inner city Bradford.
Ond rhyw fodd neu'i gilydd wnaeth pethau ddim gweithio fel y dylen nhw fod wedi gwneud. Roedd pawb bron yn gweiddi neu'n sgrechian yn ddi-stop. Yr oedd pob cymeriad yn siarad yn syniadol ac yn darlithio i'r gynulleidfa yn hytrach na gadael i ni ddeall beth oedd y neges trwy ddigwyddiad a sgwrs.

Mae'r rhaglen yn gosod allan beth yw cyd-destun y ddrama yn reit fanwl - wedi'i gosod yn y dyfodol, rhyfeloedd yn y dwyrain canol, atomfa enfawr yn Llanberis, gwrthryfel yn y gogledd-orllewin a hilgwn yn rheoli neu'n lico meddwl eu bod nhw'n rheoli, merch o Bradford yn priodi Cymro, ond yn cael perthynas tua allan i'r briodas, y gŵr yn cael ei ladd gan ei chariad, a'i thad-yng-nghyfraith yn ceisio dial. Hiliaeth, gormes, hanner-Sais hanner-Cymro, hanner-Punjabi hanner-Sais, pa iaith, &c., &c. Ond prin gyffwrdd â nifer o'r themâu wnaeth y cynhyriad.

Roeddwn i wedi credu nad oedd dramâu o'r fath yn wedi eu hysgrifennu ers y 1970au. Roeddwn i'n anghywir. Efallai taw dyna beth oedd bwriad yr awdur a'i gynorthwywyr, dwi ddim yn gwybod. Un ohonyn nhw oedd Gwyneth Glyn, un dwi'n edmygu ei gwaith yn fawr mewn amrywiol gyfryngau. Ac mae'n dweud yn y rhaglen beth oedd ei gobeithion hi ar gyfer y ddrama: "Mae'n hanfodol inmi fel cenedl gydnabod ein hunain a'n diwylliant yng nghyd-destun y gymuned fyd-eang. Fy ngobaith i ar ddiwedd y cyfnod difyr, cale a gwerthfawr o weithio gyda chir ymroddgar y cynhyrchiad yma, ydi fod hwn yn gam cyntaf ar siwrnai bwysig yn hanes y Theatr Gymraeg." A dwi'n cytuno gyda hi. Er gwaethaf amherffeithion y cynhyrchiad penodol hwn dwi'n credu ei bod hi'n bwysig ceisio deall ein perthynas â chymunedau eraill Prydain nad ydyn nhw'n gweld eu hunain fel Sesinig neu Brydeinig.

Roedd yr actio yn ddigon atebol; dyma'r tro cyntaf imi weld Catrin Roberts a Lleuwen Steffan ar lwyfan yn hytrach nag ar y sgrin fach ac fe wnaethant eu gwaith yn dda, wrth gwrs mae Wyn Bowen Harries yn hen law. Yn anffodus roedd y ddwy fenyw wedi cael cymeriadau lle'r oedd disgwyl iddyn nhw sgrechen yn barhaus a'r dyn yn gweiddi neu rantio'n yr un mor barhaus. Yn yr un modd yr oedd yr actorion o Loegr Asif Khan a Balvinder Sopal hwythau wedi gwneud eu gwaith yn iawn. Ond doedd dim rhyw lawer y gallai'r actorion ei wneud gyda'r deunydd oedd ganddynt i'w weithio gydag ef.

Ar ôl hyn'na i gyd mae'n rhaid eich bod wedi deall na wnes i fwynhau rhyw lawer iawn. Efallai ei bod hi'n fath o ddrama nad oeddech i'w mwynhau, rhyw ddrama addas at y Garawys - a dyna fyddai hi wedi bod petai dyddiaduron y Lolfa wedi bod yn gywir ynhlŷn â dyddiad Dydd Mercher y Lludw eleni. Trueni nad dyna sut oedd hi mewn gwirionedd. A dwi yn gobeithio y bydd y ddau gwmni yn parhau i gyd-weithio ac efallai yn cael gwell hwyl arni y tro nesaf.

Gyda llaw dyma'r neges e-bost wnaeth fy anfon ar gyfeiliorn. Ych chi'n gweld pam ges i fy nenu gan hyn?
Bydd cynhyrchiad diweddaraf Llwyfan Gogledd Cymru, Bwrw Hen Wragedd a Ffyn, mewn cyd-weithrediad a Theatre in The Mill, Bradford unwaith eto yn gwthio ffinniau gyda'i thema aml-ddiwyllianol, cast cymysg a chymysgedd o Gymraeg, Saesneg na Punjabi. Bradford yn cyfarfod Llanberis, Y Wyddfa yn cyfarfod mynyddoedd Peshawar, Bhangra yn cyfarfod rap Cymraeg! Cymraeg, Saesneg, Punjabi yn harmoneiddo a gwrthdaro mewn drama sydd yn plethu at eu gilydd tri gwahanol ddiwylliant er mwyn codi ymwybyddiaeth a deallltwrthiaeth cynulleidfaoedd dinas Bradford a trefi Cymru. Pump actor (Cymry a Asiaid Prydeinig), gyda chymorth taflynwyr fidio, masgiau, bwyd a defnydd yn arwain cynulleidfaoedd ar siwrne dywyll o ddarganfod draws-ddiwyllianol 20 mlynedd i'r dyfofol, 2026. Mae'r DU yng nghanol rhyfel di-ddiwedd gyda gwledydd yn y Dwyrain Canol. Mae mesurau diogelwch tyn yn bodoli, a gall unrhywbeth a ddywedir gael ei glywed, a popeth sydd yn digwydd ei ffilmio. Gall patrol fod yn aros rownd y gornel yn barod i holi unrhywun a phawb. Mae Gwynedd wedi troi'n le o ddihangfa a lloches, teurnas answyddogol lle mae pobl yn byw wrth reolau eu hunain, a lle mae iaith wedi troi'n hanfodol.

Bydd y cynhyrchiad yn archwylio hunaniaeth ieithyddol a hiliol, cwestiynu y syniad o hunanaeth mewn Prydain gyfnewidiol gyda ychydig o ddawnsio a chanu hefyd. Bydd yn cael ei gyfarwyddo gan Iain Bloomfield (Theatre in the Mill) mewn cyd-weithrediad a Ian Rowlans (Llwyfan Gogledd Cymru). Fe ysgrifennwyd y sgript gan Adam Strickson mewn cyd-weithrediad a Gwyneth Glyn a Yuniss Alam. Bydd y cast yn cynnwys actorion o Gymru, Catrin Roberts, Wyn Bowen Harries a Lleuwen Steffan, yn ogystal a actorion Asiaidd Brydeinig Asif Khan a Balvinder Sopal. "Y mae tueddiad gan rai Cymry i fod yn gul eu ffordd o feddwl am hiliaeth. Serch hyn, oddi mewn i Brydain ddatganoledig heddiw, nid ni yw'r unig leafrif sy'n ymladd dros ein hunainiaeth. Dylem felly roi i'r neulltu ein hen rhagfarnau a dechrau deialog gyda holl bobl yr Ynysoedd er mwyn datblygu dealltwriaeth ddyfnach o'n gilydd." Ian Rowlands.
Yr oedd 'na ambell i linell dda yn cynhyrchiad. Wrth geisio lliniaru ychydig ar gasineb Geraint y Bwbach (Wyn Bowen Harries) mae cymeriad Asif Khan yn ceisio dangos fod ganddo beth dealltwriaeth o Gymru o dreulio ei wyliauyma, ateb Geraint yw "We don't do holidays any more." Yn nes ymlaen wrth i Geraint fygwth chwythu ei frêns gyda dryll mae cymeriad Asif yn ymbil am drugaredd, "I will learn Welsh!"

Tagiau Technorati: | .