Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2006-02-12

Glanhau'r rhewgell

Rhewgell ffridj DogfaelNid oes dim sy'n fwy cyffredin na'r awydd i glywed diwedd stori. Yn oes y fflico o un sianel i'r llall yr unig beth dwi'n credu sy'n medru rhoi stop ar peth yw cael eich dal gan ddrama neu ffilm lle mae'r stori yn eich gorfodi i aros yn hytrach na pharhau i ddefnyddio'r sapiwr. Mae'r un peth yn wir am ddramâu ar y radio - dwi'n clywed am bobol ar y ffordd i rywle yn y car ac yn dechrau gwrando ac yn cyrraedd pen eu taith ac yn aros yn y car yn y maes parcio i glywed diwedd y stori. I'r rhai sy'n cydymdeimlo â hynny roeddwn i'n teimlo ei bod yn bwysig dweud bod rhan rhewgell y ffridj wedi'i ddadleth a bod y gwaith wedi'i orffen yno. Dim ond y rhan fwyaf o'r tŷ sydd ar ôl i'w wneud bellach, a diolch byth nad yw hwnnw'n fawr iawn!

Tagiau Technorati: .